ANGLADD.
Ddydd Iau, Rhagfyr y 24ain, cymrrodd angladd Mrs. Jane Williams, Sun Inn, Llanengan, le yn Mynwent y Plwyf. Y Parch H. D. Lloyd, B.D., yn gwasanaethu wrth y tŷ, a'r Parch H. R. Roberts, M.A., rheithor, yn yr Eglwys, ac ar lan y bedd.Yr oedd yr ymadawedig yn adnabyddus a chymeradwy iawn yn yr ardal, ac wedi cyrraedd ei 70 mlwydd oed.
Anghyhoedd oedd yr angladd. Wele enwau'r galarwyr : Misses G a M. Williams, Llanengan, a Mrs. Jones, Manceinion (merched), Mri. David Williams, Shop Pwlldefaid, Pwllheli: James Williams, Llanengan; Thomas Williams, a W. O. Williams, Pwllheli (meibion); Mri. Owen Roberts, Cwrt, Aberdaron (brawd); Thomas Williams, Pwlldefaid, Aberdaron (brawd-yn-nghyfraith); John Jones. Ty'n Mynydd; Owen Roberts, Glangors; Thomas Roberts, Penygroes, Cilan; a Williaim Parry, Ty'nllan.
Nos Sul traddododd y Parch H. R. Roberts, M.A., rheithor, bregeth angladdol yn eglwys Llanengan ar y geiriau, "Mi wn fod fy Mhrynwr yn fyw."