MARW.
Gyda gofid dwys yr ydym yn cofnodi marwolaeth Mrs Sophia Parry, Tanrallt House, yr hyn a gymerodd le ddydd Gwener, Awst y 6ed yn 59 mlwydd oed.Byr fu ei chystudd, ond caled, a dioddefodd y cyfan yn hynod dawel. Yr oedd hi yn wraig rinweddol ac yn fam dda.
Claddwyd hi y dydd Mercher canlynol (angladd preifat) pryd y gwasanaethwyd gan ei gweinidog, y Parch H. D. Lloyd,
Cydymdeimla yr ardal yn ddwys รข'r plant sydd wedi cael eu gadael yn amddifad o dad a mam.