PRIODAS.

Mai 17eg, yn Eglwys Sant Ffraid, GIan Conwy, unwyd mewn glan briodas Miss Jennie Parry. trydedd ferch i'r diweddar Mr a Mrs Griffith Parry. Tanrallt House, Llanengan. a Mr Edward Ellis Davies, Branksome, Glan Conwy.

Y morwynion oeddynt Misses Annie ac Elizabeth Parry, a'r gwas Master Willie Williams, Police Station, Glan Conwy. Rhodd;wyd y briodferch ymaith gan ei chefnder, Mr T. Roberts, Gwynedd House; Conwy.

Gwasanaethwyd gan y rheithor. y Parch D. Davies. Wedi'r gwasanaeth aed i Branksome, lle yr oedd boreubryd wedi ei baratoi gan Mr a Mrs Henahaw, 'Roedd y wraig ieuanc wedi ymwisigo mewn silver grey siik crepe de chene a dygai yn ei dwy law dorch o fiodau gwynion.

Da oedd gennym weled Mr Davies wedi od yn ôl ac wedi dianc rhag peryglon y rhyfel yn Ffrainc ac Itali yn iach ac yn ddianaf. Pan ymunodd a'r fyddin anrhegwyd ef gan Eglwys St. Ffraid ag oriawr hardd am ei waith fel darllenwr lleyg. Derbyniodd y par ieuanc nifer fawr o anrhegion a dymunai pawb yn dda iddynt a bendith y nefoedd ar eu huniad.

Ymadawodd Mr a Mrs Ellis Davies yn y prydnawn am gartref y briodferch ac oddiyno i Lerpwl.

Yr Herald Gymraeg 27/05/1919