BACHGEN O LEYN WEDI COLLI EI FYWYD. EI DARO DROS Y BWRDD.
Dydd Iau derbyniodd Mr. a Mrs Thomas Johnson, Bodlondeb, Llanengan, frysneges o Panama yn hybysu fod eu mab Thomas, 18 mlwydd oed, yr hwn oedd yn brentis ar yr agerlo Dunraven o Gaerdydd, wedi colli ei fywyd trwy gael ei olchi dros y bwrdd ar Mawrth 17eg.Cydymdeimlir yn ddwys ar teulu yn eu profedigaeth chwerw.