YNADLYS PWLLHELI - YMOSOD AR HEDDWAS YN ABERSOCH.
Cynhaliwyd dydd Mercher. Ar y fainc : Mri. Maurice Jones (cadeirydd), Claud Lloyd Edwards, G Hughes Roberts, J.G. Jones, W. Anthony, J. Hughes Parry, W. W. Griffiths, a Dr. R. Jones Evans.Cyhuddai yr Arolygydd Owen, Frederick Parson, Ysguborwen, Abersoch, y nos Wener blaenorol ar y sgwar yn Abersoch.
Tystiai yr Heddwas Owen ei fod yn Abersoch nos Wener, pan ddaeth Capten William Roberts ymholiadau ynglyn a rhyw ymholiadau a wnaeth ef ynglyn a cherbyd modur. Yr oeddynt dan ddylanwad diod a cheisiodd yntau ganddynt fyned adref yn dawel, a chychwynodd ymaith, ond dilynodd Parson ef a tharawodd ef ar ei fraich a safodd o'i flaen mewn ystum ymladdgar. Aeth yn ymdrechfa rhyngddynt ac yna gofynodd y diffynydd am iddo ei rhoddi fyny gan iddo fethu a'i daflu ef i lawr fel y ceisiai. Yr oedd ef wedi eu gweled yn dod o'r Vaynol Hotel ac yr oedd trwyddedydd yr hotel gyda hwy.
Cafwyd tystiolaeth hefyd gan Richard Jones, Abersoch.
Dywedai Mr. J. R. Anthony ar ran y diffynydd fod y cwbl wedi codi o ddrwg-deimlad oedd yn bod yn flaenorol rhwng y diffynydd a'r heddwas. Yr oedd Capten Roberts yn gofyn i'r heddwas paham yr oedd yn gwneyd ymholiadau yn ei gylch ef ynglyn a cherbyd modur, pryd y gofynodd yr heddwas iddo beth oedd ei fusnes ef yno. Gofynodd yntau i Capten Roberts ddod o'r lle a chychwynodd a'i ddwylaw yn ei bocedau a'r funud hono rhuthrodd yr heddwas i'w wddf, a bu yn ymdrechfa rhyngddynt, a rhoddodd y diffynydd i mewn i gais yr heddwas. Yr oedd y diffynydd arfer a chodi ei law pan fyddai cerbydau modur yn dod i fyny yr allt, ac un diwrnod dywedodd yr heddwas wrtho am beidio a gwneud hyny eto gan ei fod ef yn cael ei dalu am y gwaith, ac os gwnai drachefn y byddai iddo gnocio ei ben oddiar ei gorff.
Cadarnhawyd yr uchod gan y diffynydd a William Jones, Pengamfa, Llanengan.
Gofynai y cadeirydd paham na buasai Capten Roberts a thrwyddedydd y Vaynol Hotel yno.
Dywedai Mr. J. R. Anthony ei fod yn disgwyl i'r erlynwyr eu galw.
Dywedai yr Arolygydd Owen fod trwyddedydd y Vaynol Hotel wedi dweud na byddai iddo ddweud yr un gair pe gorfodid ef ddod i'r llys.
Dirwywyd y diffynydd i 5s a 18s o gostau.