Ynadlys Pwllheli.

Cynhaliwyd dydd Mercher.Gerbron Mri. J. G. Jones (cadeirydd), Maurice Jones, P. M. Ellis, William Thomas, J Hughes Parry, W. W. Griffith, a Dr. Gwenogfryn Evans.

PRYNU GWARTHEG.

Cyhuddai Mr. T. Llewelyn Jones, Arolygydd y Bwydydd, Richard Thomas, Creigir Wen, Abersoch, o fasnachu mewn gwartheg heb drwydded. Ymddangosai Mr. Hugh Pritchard i erlyn, ac amddiffynai Mr. E. R. Davies, yr hwn a gyfaddefai fod y trosedd wedi eu wneyd mewn anwybodaeth o'r rheolau.

Eglurai Mr. Pritchard fod y diffynydd wedi prynu saith o fustych gan Mr. Owen Griffith, Bryn Moelyn, Llannor, am 175p a'u hail werthu i fasnachwr arall. Sylwai hefyd fod yn ofynol i ffermwyr gael trwydded i ddelio fel masnachwyr gwartheg, ac nid oedd gan y diffynydd drwydded.

Dirwywyd i 10s. a'r costau. Gwrthodwyd caniatau y costau cyfreithiol.

Yr Udgorn 27/02/1918