ANGLADD.
Dydd Mercher rhoddwyd gweddillion y diweddar Mr John Hughes Aelybryn, i orphwys yn mynwent y Bwlch. Yr oedd yn enedigol o Sir Fôn ond daeth i'r ardal yma yn ieuanc iawn. Yr oedd yn 59 mlwydd oed, ac yn aelod ffyddlon iawn o Eglwys Bwlchtocyn (A.).Oherwydd prinder gwaith yn y fro, treuliodd rai blynyddau yn Nhalysarn, yn Ne Cymru, ac yn Lloegr. Ond adref gyda'i deulu siriol y carai fod ac yno y gwelwyd rhinweddau disglaer ei fywyd tawel a diymhongar.
Dyn distaw ydoedd ond dyn o ddylanwad er hyny. Daeth torf luosog ynghyd ddydd yr angladd i ddangos eu parch i gymeriad prydferth a'u cydymdeimlad a'r teulu galarus.
Gweinyddwyd wrth y tŷ ac yn y fynwent gan y gweinidog.