MR GRIFFITH JONES, BALADEULYN.

Un o ragorolion y ddaear oedd Griffith Jones. Fe'n gadawodd ar Sul, Rhagfyr 27, 1970, a rhoddwyd ei weddillion i orwedd ym mynwent Macpela, Penygroes.

Gŵr o Rydyclafdy yn Llŷn ydoedd, a phrawf o'i ymlyniad wrth yr ardal yw mai Rhyd oedd enw ei gartref yn Nantlle. Cafodd waeledd hir, a dioddefodd yn wrol a siriol i'r diwedd.

Collodd ei dad pan nad oedd ond deng mlwydd oed. Ef oedd yr hynaf o 4 o blant, ac felly, disgynnodd peth cyfrifoldeb ar ei ysgwyddau ieuainc i ofalu am y cartref. Fel llawer mam arall, galwai ei fam yntau ar y plant i godi ar fore Sul i fynd i'r capel mewn pryd ac ni bydd trafferth yn y byd i'w godi ef. Yr oedd yn fore Sul, a rhaid oedd codi'n gynnar i fod yno mewn pryd. Arferodd gymrys rhan yn gyhoeddus yn addoliad yr eglwys yn ieuanc, a byddai wrth ei fodd yn cael cynorthwyo'r Achos mawr.

Wedi iddo adael yr ysgol, aeth i wasanaethu ar un o ffermydd y fro, a bu yn hapus yn y gwaith, ond gafaelodd chwiw ynddo ef a chyfaill iddo o Bwllheli, a hwyliasant i Ganada. Bu yno a ragor na dwy flynedd, a chyflwynwyd oriawr aur iddo am ei wasanaeth gan deulu caredig y Manitoba River Valley Farm. Ni fwriadodd fod yno'n hir a dychwelodd i'w hen wlad. Ymbriododd a symyd i Nantlle.

Daeth cymylau duon y Rhyfel uwchben, ac ymunodd yntau â'r Fyddin. Eithr torrodd ei iechyd o dan straen y bomio a'r saethu, a gorfu arno fynd i'r Military Emergency Hospital yn Southport. Yno daeth i gysylltiad â'r Parch. H. Harris Hughes, Southport, ac aethant yn gyfeillion mynwesol. Cafodd arrheg ganddo o rai o lyfrau Emrys ap Iwan; a byddai wrth ei fodd yn darllen llyfrau sylweddol.

Fe'i rhyddhawyd o'r Fyddin, a chymerodd ei drawsblannu'n fendigedig yn Nyffryn Nantlle. Dangosodd yn fuan ddiddordeb ym mywyd yr eglwys yno, ac fe'i codwyd yn Flaenor, a derbyniodd yntau y swydd yn llawen.

Er ei fod yn ŵr cyhoeddus, cymeriad llednais ac encilgar ydoedd. Uwchlaw popeth, yr oedd yn Gristion, ac er i'e iechyd ddirywio yn ystod y chwe blynedd diwethaf hyn, gallai ddweud “yr wyf yn ei adnabod Ef.”

Yr oedd yn Genedlaetholwr, ac ni châi drafferth o gwbl i gadw cyd-bwysedd rhwng Gwleidyddiaeth a Chrefydd. Yr oedd yn gymydog da, ac yn gydweithier diddan. Byddai'n hoff o ddynwared ei hoff bregethwr, sef Philip Jones. Os gofynnid iddo ac yntau mewn hwyliau anarferol, “beth yr wyt yn ei wneud heddiw”? Ceid ateb yn fynych; “O! Tynnu yn rhaffau'r Addewidion.”

Fel goruchwyliwr ar bethau'r tŷ, rhoes ei amser fel athro Ysgol Sul ac yn y Gobeithlu. Byddai ar ei orau gyda'r plant. Gwyddai na allai plentyn ddyfod i'w fyd ef, ond yr oedd yn ymwybodol â'r ffaith y gallai ef ddyfod i lawr i fyd plentyn.

Yn y diwedd, daeth yr angau “a'i draed plu a'i drawiad plwm” i'w ddwyn i'r dragwyddol hedd. Profodd o'r “hedd na ŵyr y byd amdano.” Fel cyn-chwarelwr, yr oedd y corn gollwng yn bwysig iddo, fel y canodd y bardd,
“Ar awelon hwyrddydd fy mlynyddoedd daw cri yr hwter olaf yn galw i Fethesda fy nhadau.”

Cydymdeimlir yn ddwys â'i weddw a fu mor driw a charedig wrtho, a hefyd â'i blant.

Y Goleuad