MARW CYMWYNASWR.

Yn blygeiniol dydd Llun, Ionawr 14eg, brawychwyd yr ardalwyr gan ymweliad brenhin y dychryniadau ag annedd dawel a diymhongar Caerau, Llanfihangel Bachellaeth, a chymerodd ymaith y rhan a berthynai i'w lywodraeth o'r olaf o'r meibion, sef Mr William Williams, yn ei 62 mlwydd oed.

Er ei fod yn gwywo i'r craff ers rhai wythnosau, ni feddyliodd y craffaf o'i gymdeithion fod y diwedd mor agos, ond pan y daeth cenad angeu yn rhith llid ac enyniad, er pob ymgais o eiddo perthynasau, nurses, a'r meddyg proifiadol O. Wynne Griffith, Pwllheli, nid oedd bwrw arfau a diangc yn bosibl.

Chwith ydyw cofio yr adeg pan yr oedd aelwyd y Caerau yn gyforiog o lawenydd. Magwyd aml fwy na dwsin o egin dynoliaeth, ond erbyn hyn nid oes yn aros ond dwy chwaer, sef Miss Ann Williams, yn yr hen gartref, a Mrs Laura, Jones, Neuadd, Bodgadle.

Dydd Gwener, Ionawr 18, hebryngwyd ei weddillion gan nifer o'i gyfeillion ac aelodau o'r teulu i fynwent henafol Bottwnog yn agos i'r hen ysgol enwog y bu yntau ar un adeg yn chwarea ar ei lawnt ac yn ceisio addysg o fewn ei muriau, a chofiai pan fu'm yn ymddiddan ddiweddaf ag ef am helyntion diniwed "Difia fawr" yn yr adeg ddedwydd honno.

Ni ddaearwyd cywirach cyfaill na chymwynaswr parottach na'r diweddar frawd, ac y mae eglwys Garnfadryn wedi cael colled anaele, colli diacon a thrysorydd, fel y tystiai ei gweinidog, y Parch R. O. Williams, yn ei bregeth angladdol yng ngwydd tyrfa luosog noson ei arwyl oddiar y geiriau, "Da was da a ffyddlon," etc. Boed nawdd lor drosto a chyfoded eto feibion i lanw lleoedd eu tadau fel y bu ein diweddar frawd.

Y mae teulu y Caerau yn ddiarhebol am eu hynawsedd a'u caredigrwydd, eu croesaw a'u calondid i wreng a bonedd, ac nid aeth cardotyn erioed ymaith oddiwrth eu porth heb fod wedi ei Iwytho o luniaeth a llawenydd fel y canodd y diweddar Glan Pherath - y Parch Thomas Hughes, Machynlleth - pan ar daith :

Cerddais er cyraedd y Caera—heno
        Hunaf fy hun ora :
    At deulu a dwylo da,
    Llon'd y tŷ, fe'u llettya.

Hyderwn y gwelir eto un o'r hen frid prin yn bwrw golwg dros y ta-lerydd ac yn cyfrif "y defaid bach," hwythau yn enwog ymhlith praidd Lleyn, ar lethrau y ddwy Garn. Heddwch fyddo o fewn y magwyrydd hen, a ffyniant yn ei phalasau.

Boed i'r chwiorydd sydd yn aros, a holl aelodau y teulu yn Lleyn, Eifionydd, ac Arfon gofio eu henanaid gwir Gymroaidd a derbyn o fendithion goreu Gwynfa. Am y diweddar William Williams gellir dweyd. '"Ni frysia yr hwn a gredo." Gweithiwr difefl a chyfaill calon i'w wasanaeth ddynion. Ni ddywedai lawer, ni froliai fawr, ond

"Am William wyla miloedd;
Twr i dlawd, trwyadl oedd."

Yr Herald Gymraeg 29/01/1918