Y Fuwch a Gollodd ei Theth.

Yn Llys Sirol Pwllheli, ddydd Gwener, gerbron y Barnwr W. Evans, hawliai Mr. Daniel Jones, Terfyn, Morfa Nefyn, y swm o 50p. oddiar Mr. Hugh Roberts, Hendre Wen, Rhydyclafdy.

Ymddangosai Mr. Clement Davies (dan gyfarwyddid Mr. E. R. Davies) ar ran yr hawlydd, a Mr. Graham (dan gyfarwyddid Mr Richard Roberts) ar ran y diffynydd.

Eglurai Mr. Davies fod Mr. Daniel Jones wedi prynu buwch gan Mr. Griffith Jones, Pwllheli, ac wedi ei gwerthu i'r diffynydd. Flwyddyn yn ôl anfonodd y diffynydd y fuwch i Griffith Jones am ei bod wedi colli ei theth. Erlynodd Daniel Jones Griffith Jones am 6p., sef gwerth y fuwch.

Honai Griffith Jones nad oedd y fuwch wedi colli ei theth pan werthodd ef hi, ac felly nad oedd ef yn gyfritol. Dyfarnodd y Barnwr yn ffafr Griffith Jones.

Hawliai Daniel Jones yn awr mai Hugh Roberts oedd gyfrifol, gan fod y fuwch, yn ôl barn y Barnwr, yn ddianaf pan gafodd Hugh Roberts hi.

Dadleuai Mr. Graham fod Hugh Roberts wedi cytuno â Daniel Jones i anfon y fuwch yn ôl ar ôl cael ei harchwilio gan feddyg anifeiliaid. Nid oedd yn wir fod Roberts yn cydweithredu â Daniel Jones yn yr achos. Gweithredai dan gyfarwyddid Daniel Jones yn unol a chytundeb a wnaed rhyngddynt.

Tystiai Hugh Roberts, y diffynydd, iddo brynu y fuwch gan Daniel Jones am 26p. 5s.. gyda'r sicrwydd dan law Griffith Jones ei bod mewn cyflwr boddhaol. Ni welodd ef y fuwch cyn ei phrynu. Yn mhen ychydig ddyddiau canfyddodd fod diffyg ar un deth iddi. Hysbysodd Daniel Jones o'i chyflwr, a chytunasant i gael y meddyg anifeiliaid i'w harchwilio, a chyfarwyddod Daniel Jones ef i anfon y fuwch yn ôl i Griffith Jones os y condemnid hi gan y meddyg anifeiliaid. Ystyriai ef mai gweithredu ar ran Daniel Jones yr oedd, ac nid oedd ganddo unrhyw gyf ifoldeb yn y mater. Anfonodd ef dystysgrif y meddyg anifeiliaid i Daniel Jones, ac aeth a'r fuwch yn ôl i Griffith Jones.

Mewn atebiad i Mr. Clement Davies dywedai mai ar yr heol yn Mhwllheli y gwnaed y cytundeb â Daniel Jones.

Y Barnwr: Beth ddaeth o'r fuwch ?

Mr. Clement Davies : Deallaf ei bod wedi ei gwerthu er talu am ei chadw a chostau eraill i Griffith Jones. Mae yr hawlydd wedi colli y 26p a dalodd am y fuwch i Griffith Jones, ac wedi colli y fuwch hefyd. Ni welodd Daniel Jones y fuwch o gwbl.

Tystiai Daniei Jones iddo brynu y fuwch gan Griffith Jones, ac iddo ei gwerthu i Hugh Roberts. Gwadai Griffith Jones fod diffyg ar y fuwch pan werthwyd hi ganddo ef. Daeth ef ag achos yn erbyn Griffith Jones, a dyfarnodd y Barnwr yn ffafr Griffith Jones.

Felly, os oedd y fuwch yn iach yn gadael Griffith Jones rhaid ei bod yn iach pan gafodd Hugh Roberts hi. Felly hawliai ei gwerth gan Hugh Roberts.

Dywedai y Barnwr ei bod yn disgyn yn bur drwm ar yr hawlydd, a'i fod yn cael cam, ond nis gallai weled y dylid gwneud cam ag Hugh Roberts, ac felly dyfarnai yn erbyn yr hawlydd gyda'r costau.

Yr Udgorn 15/08/1917