WEDI EI GLWYFO.
Drwg genym ddeall fod y milwr ieuanc, Pte. Francis Roberts. Tynymaes, mewn ysbyty milwrol yn Ffrainc. Dioddefa oddiwrth glwyf achoswyd iddo gan ddarn o shell.Mab ydyw ef i'r diweddar Mr Henry Roberts, Ty Mawr. Mynytho, ac fel ei ddiweddar dad, y mae yn meddu ar gorph lluniaidd a hardd.
Deallwn mai gyda r Saeson y gwasanaetha ef, ac y mae wedi bod drwy y brwydrau mawr diweddar yng nghyffiniau Ypres.
Y mae iddo gymeriad uchel, nid yn unig yn mro ei enedigaeth. ond mae iddo luaws mawr o gyfeillion yn Lerpwl a mannau ereill, pa rai sydd wedi dangos eu teimlad tuag ato.
Hyderwn y caiff wellhad buan ac y cawn y fraint eto o'i weled yn dod yn ôl o faes y gad er llawenydd i'w unig chwaer ac i'w gyfeillion oll.
Yr Herald Gymraeg 25/09/1917
DOD ADREF.
Dydd Mawrth, Medi 17, daeth Pte. F. Roberts, Tynymaes, adref o'r ysbyty a da iawn oedd gennym ei weled yn edrych cystal ar ôl bod yn gorwedd misoedd lawer dan glwyfau trymion y rhai a dderbyniodd yn y rhuthr mawr mis Mawrth diwethaf yn St. Quentin.Perthyna ef i'r 17th Manchesters, pa rai a ddangosasant wroldelb digyffelyb, hyd nes y collodd bron yr oll ohonynt eu bywydau. Y mae Pte. Roberts yn un o'r rhai a arbedwyd.
Bu ei gyflwr yntau am fis yn lled anfoddhaol, ond llwyddodd Dr. Baird, un o brif feddygon yr America, ynghyd a Dr. Field, meddyg enwog o'r Iwerddon, a phrif feddygon y wlad hon i gyflawni gweithred llaweddygol bwysig arno a throes allan yn llwyddiannus.
Hyderwn iddo ddal i wella eto. Mae wedi bod trwy'r brwydrau mwyaf erchyll, ac y ei swyddogion wedi rhoddi canmoliaeth uchel iddo fel milwr dewr, a'i fod wedi gwneyd ei ran yn ganmoladwy yng nghanol y tan mwyaf erchyll hyd nes y clwyfwyd ef, a thra yn gowedd yn ei glwyfau daeth yr Ellmyn ymlaen gan feddwl cael gafael ynddo, ond gallodd gyrraedd i le o ddiogelwch er fod ei waed yn ffrydio allan.
Gobaith gwan fuasai i ni gael ei weled pe buasai yr Ellmyn wedi cael gafael ynddo yn ei glwyfau.