MYNYTHO O'R DARDANELLES.
Da genym longyfarch Pte. Llewelyn John Roberts, Cartrefle, Mynytho, ar ei ddychweliad yn ôl o'r Dardanelles i'n plith unwaith yn rhagor.Ymunodd a'r Fourth Cheshires ar doriad allan y rhyfel er nad oedd ond un-ar-bymtheg mlwydd oed ar y pryd. Cymerodd ran ym mrwydr fawr SuvIa Ray a daeth trwyddi heb ei niweidio.
Yna, bu am chwech wythnos yn y trenches yn gwrthwynebu'r gelyn. Tarawyd ef gan glefyd y wlad. sef y dysentery a chymerwyd ef i ysbyty ym Malta. Oddiyno daeth drosodd i Lundain, ac yna ar ôl afiechyd hir. i'w gartref ym mysg bryniau Cymru.
Dilyned pob Cymro esiampl Pte. Roberts sydd wedi dioddef cymaint dros ei wlad.