CLADDU.
Yn sydyn iawn fore Llun bu farw James Williams, Glanpwll. Nawn Sadwrn yr aeth yn wael. Cymeriad syml a thawel iawn, a chymydog heddychol ydoedd. Cafodd lawer o stormydd y byd yn ddiweddar.Gadawodd amryw feibion a merched i alaru ar ei ôl, ac nid oedd ond ychydig amser era pan gladdwyd ei briod.
Yr oedd yn aelod o Eglwys Horeb (A.).
Claddwyd ei weddillion ym Mynwent Llanbedrog, pryd y gwasanaethwyd wrth y tŷ a'r bedd gan y Parch. R. M. Edmunds.