Ynadlys Pwllheli.
Cynhaliwyd dydd Mercher.Gerbron Mri. J. G. Jones, J. Hughes Parry, Maurice Janes, a W, W. Griffiths.
DYRNU AR Y FFORDD FAWR.
Cyhuddid Owen Williams, Tyddyn Gwyn, Llangian, o roddi y peiriant dyrnu ar y ffordd fawr. Tystiai yr Heddwas Owen eu bod wedi dyrnu am bedair awr ar y brif ffordd.Dywedai Mr Robert Williams. Tyddyn Gwyn, fod yn 'amhosibl rhoddi y peiriant dyrnu yn y cae am fod y tir yn wlyb ac y buasai yn sincio.
Yr oedd y ffordd yn ddigon llydan, ac ni roesant rwystr o gwbl ar ffordd trafnidiaeth.
Taflwyd yr achos allan ar daliad y costau o 5s.