Llys Ynadol Pwllheli.
Dydd Mercher, Rhag. 16eg. Gerbron J. G Jones, Ysw. (cadeirydd), yr Henaduriaid W. Anthony a Maurice Jones, Dr J. Gwenogvryn Evans. W. Thomas, Ysw., W. W. Griffith, Ysw., a J. Hughes Parry, Ysw.TARW PERYGLUS.
Gwysid Owen Grifliths, Llawrdre, Llangian, gan Mr Chas. Ll. Roberts, Arolygydd Bwrdeisdref Pwllheli, am fynd a tharw dros flwydd oed drwy'r heol er perygl i'r cyhoedd gan nad oedd wedi ei raffu'n briodol.Tystiwyd fel yr ymwylltiodd yr anifail gan fygwth pobl a phlant.
Dirwywyd y diffynydd i bumswllt, a naw swllt a chwecheiniog o gostau.