MARW GWR ADNABYDDUS O'R DREF.
Diau y bydd yn chwith gan lu o gyfeillion a chydnabod y diweddar Mr Robert Roberts (tad Mr G. Cornelius Roberts, y Maer), Court, Mynytho, ddeall am ei farw sydyn ac anisgwyliadwy.Cymerodd yr amgylchiad galarus le ddydd Sul, ac ehedodd ei ysbryd gwyn i'r breswylfa lonydd i fyw y Sabboth tragwyddol, ac efe yn 73 mlwydd oed. Cyn ei symudiad i fyw i Mynytho bu yn fasnachydd llwyddianus fel cigydd yn Mhwllheli, ac yr oedd yn ei ddydd yn un o'r masnachwyr mwyaf poblogaidd yn y dref. Yr oedd amryw o nodweddion gwir brydferth yn ei gymeriad, a hawdd y gellid nesu ato ar gyfrif eangder ei ddynoliaeth a'i ysbryd hunan-ymwadol. Anaml y cyfarfyddid a phersonoliaeth â chymaint o gydbwysedd ynddi a'r eiddo ef, a byddai ei wên ddiwenwyn yn atdyniad i'r sawl a ddeuai dan ei dylanwad.
Pan yn ei flynyddoedd ireiddiaf, cyn i ddyddiau henaint ymdaenu drosto, bu yn aelod ffyddlawn a dichlynaidd yn eglwys Penmount, ac yr oedd ei ddefnyddioldeb yn amlwg i bawb yno.
Magodd a meithrinodd deulu lluosog o dan amgylchiadau trist o golli priod dyner a llafurus, sef tri o feibion, a phedair o ferched, o ba rai y mae y merched oll ac un mab yn cyfaneddu yn yr Amerig ers blynyddoedd lawer. Maent oll mewn sefyllfaoedd anrhydeddus yno, a'i hymarweddiad yn deilwng o'r hyfforddiant tadol a gawsant. Cafodd y fraint hefyd o weled ei fab hynaf - Mr G. Cornelius Roberts - yn cael ei anrhydeddu a maeroliaeth ei dref enedigol, y swydd uchaf posibi, y gellid ei rhoi iddo gan y trigolion, a phara hyn foddhad dirfawr iddo.
Cymer y gladdedigaeth le, yr hon fydd anghyhoedd, yn mynwent Llangian ddydd lau nesaf.
Mae'n cydymdeimlad yn ddwfn a'r teulu a'r perthynasau, ac a'r plant sydd ar wasgar dros y Werydd, yn eu profedigaeth chwerw.