MARW GWRAIG RINWEDDOL.

Drwg gennym gofnodi marwolaetlh Mrs Catherine Jones, Bwlch. Llanengan, a hi yn 80 mlwydd oed. Yr oedd Mrs Jones yn wraig eithriadol o garedig a pharod ei chymwynas ac yr oedd ei helusegarwch a'i lletygarwch yn hysbys trwy'r holl wlad. Bu yn lletya gweinidogion Methodistaidd am gyfnod maith, a bydd yn chwith iawn gan lu ohonynt glywed am ei hymadawiad.

Yr oedd Mrs Jones yn ferch i Glasfryn Fawr, Llangybi. Magodd dyaid o blant y rhai sydd yn troi mewn gwahanol gylchoedd o ddefnyddioldeb mewn gwahanol ardaloedd.

Cydymdeimlir yn fawr รข Miss Maggie Jones, Bwlch; Mrs Crawley, Liverpool; Mrs Jones Hughes, Tower Stores, Pwllheli (merched), a'r meibion a'r teulu oll. Atalwyd Mr. John Jones. Hale i fod yn bresenol oherwydd gwaeledd, a Capten Griffith Jones, Lerpwl. am ei fod yn rhwym gyda'i long.

Cymerodd yr angladd le ddydd Mawrth Tachwedd 5ed, yn Mynwent Capel y Bwlch, y Parch. H. D. LIoyd, B.D., gweinidog, yn gasanaethu.

Y prif alarwyr oeddynt Mri. Evan Jones, Bwlch R. O. Jones, Sunderland; Richard Jones, Treffynnon (melbion); W. Jones Hughes. Pwillieli (mab yng nghyfraith). Tom Jones, Hanley; W. Llewelyn Jones, Caergybi; Wm Jones, Barracks; John O. Jones, Pwllheli, a Hugh Roberts. Glyn Shop; diaconiaid Capel y Bwlch, ac eraill.

Anfonwyd blodeudyrch gan Mr. Jones, Hale; Mr a Mrs Baines, Middlesbrough; Mr a Mrs Needham, Hale; Mr R. O. Jones, Sunderland; Mr Tom Jones,Hanley.

Yr Herald Gymraeg 19/11/1918