ENILL Y FEDAL FIRWROL.
Yr ydym yn mawr lawenhau oherwydd fod Gunner Arthur Jones (Tank Corps,) Shop, wedi ei anrhydeddu ar faes y frwydr yn Ffrainc a'r Military Medal am ei wrhydri gyda'r Tanks.Un o fechgyn mwyaf crefyddol yr ardal ydyw, wedi ei fagu ar aelwyd sydd bob amser yn llawn sel dros yr eglwys.
Cyn y rhyfel gwasanaethai fel garddwr gyda Mr. C. H. Lloyd Edwaids, Nanhoron.
Yr Udgorn 29/05/1918
Y TLWS MILWROL.
Wedi bod ohono yn Ffrainc am fisoedd lawer, daeth Gunner Arthur H. Jones, Shop, adref am ychydig seibiant, a deallwn mai dyma ei ymeliad cyntaf â chartref ar ôl ennill y Fedal Fihwrol.Felly mae'n dda gennym gael y pleser o'i longyfarch a'i weled yn edrych mor rhagorol ar ôl y brwydrau erchyll y bu ynddynt yn ddiweddar. Deallwn ei fod yn gwasanaethu gydag un o'r "tancs" er pan aeth allan gyntaf. Nid ydym wedi derbyn y manylion eto. Ymunodd a'r fyddin yn fuan ar ôl torlad allan y rhyfel.
Prysured y dydd y ca ddod adref am y tro olaf o'r fangre ofnadwy y mae ynddi yn bresennol.
Yr Herald Gymraeg 16/07/1918
LLANGIAN DYRCHAFIAD.
Dyrchafwyd Pte. Arthur H. Jones, Shop, yn Lance Corporal gydag adran y Tanks yn Ffrainc y dydd o'r blaen.Nid oes ond ychydig o wythnosau er pan ennillodd y Tlws Milwrol am ei wroldeb gyda'r adran uchod.
Caffed nawdd a nerth i ddychwelyd yn iach a dianaf o'r rhyfel i wisgo'r tlws o anrhydedd am flynyddau lawer.
Yr Herald Gymraeg 10/09/1918
TLWS MILWROL I ARWR.
Llawenydd i'r ardal rai misoedd yn ôl oedd deall fod Corporal Arthur H. Jones, o'r Tank Corps, wedi ennill y Tlws Milwrol am ei wroldeb ar faes y gwaed yn Ffrainc.Ymunodd y cyfaill gvvrol a'r fyddin yn 1914 yn fuan ar ôl toriad allan y rhyfel. Yr oedd cyn hynny yn gwasanaethu gyda Mr. C. H. Lloyd-Edwards, Nanhoron, fel garddwr, a da gennvm ddeall ei fod wedi dychwelyd yn ôl yn ddianaf er cael llawer dihangfa gyfyng.
Efe hefyd oedd arolygwr Ysgol Sul Eglwys LIangian ar ddechreu y rhyfel. Ceir ynddo gyfunad o draddodiadau crefyddol goreu ei genedl ac arwriaeth ardderchog.
Dydd lau galwyd ef i Wersyll Kingsbridge, Beaumaris, i dderbyn y Tlws Milwrol, pryd yr arwisgwyd ef yn ngwydd tyrfa fawr gan y Cadfridog Syr Owen Thomas. A.S., yn cael ei gynorthwyo gan Major Pannington o'r Royal Engineers.
Mae'r Tlws yn un prydferth iawn a'i enw yn gerfiedig arno. Caffed hir oes i wisgo'r Tlws am flynyddau lawer. Mab ydyw i Mr. Wm. Jones, cigydd, o'r pentref hwn.