MARWOLAETH.
Boreu Sadwrn, Ionawr 27, bu farw Thomas Morris, Nant Rhiwdar. Mab ydoedd i'r diweddar Thomas ac E izabeth Morris, Caedu, Llaniestyn, a brawd i'r diweddar Robert Thomas Morris, Llwynimpia, Clynnog.Gedy ar ei ôl briod ac un mab. Cydymdeimlir yn fawr â Mrs Morris a'r mab yn eu profedigaeth sydyn a hefyd a'r teulu oll, sef ei chwiorydd, Mrs. Thomas, Glasfryn, Sarn; Mrs Griffith, Tynrallt, Nanboron; Mrs Hughes, Nant Bach, Dinas, a hefyd ei unig frawd, Owen Morris, Caedu.