PRIODAS.
Ar y 14eg o'r mis hwn, unwyd mewn glan briodas wrth allor hen Eglwys Llangian, Mr. Robert J. Morris, Penybryn, a Miss Jane Roberts, Tanygraig, Rhiw. Mr. H. W. Jones, Ty Newydd, a Miss Lizzie Williams, Rhiw, ydoedd y gwas a'r forwyn. Yr oedd yn bresennol hefyd Mr. Evan Morris, tad y priodfab, yr hwn a gyflwynodd y ferch ieuanc i'w phriod. Fe'u priodwyd trwy drwydded. Y Parch. W. Griffiths-Jones, offeiriad y plwyf, oedd yn gwasanaethu.Sirioldeb ac hapusrwydd oedd yn nodweddu'r briodas. Yr oedd haul mawr Duw yn anterth ei nerth yn gwenu arnynt, a'r coed a'r meusydd yn eu gwisigoedd hafaidd, fel pe'n ymgrymu iddynt, ac fel pe'n dweyd eu bod yn cyd ddechreu bywyd newydd. Yr oedd pobpeth yn arwyddo dyfodol hapus iddynt; a dyma yw ein dymuniadau ni oll. Y mae'r gŵr ieuanc wedi bod yn ymladd dros gyfiawnder ym Mhalestina, a Ffraingc, a chafodd aml i ddiangfa gyfyng, ond bu i Dduw, ei gadw a'i arwain adref yn iach, fel y gallai gael ei uno mewn glan briodas ag un o'r merched ieuainc mwyaf addawol yn y fro.
Pob llwyddiant a bendith fo arnynt. Ymlaen yr elont ymhob rhinwedd. Bydded i gariad a thangnefedd fod yn amlwg yn eu plith. Ein gweddi yw ar iddynt gael gras Duw i gadw'n fyw urddas hen deulu parchus Penybryn, ac i gofio yn barhaus o dan bob amgylchiad eu bod wedi addaw eu bod i garu ac i fawrhau eu gilydd hyd nes y gwahano angau hwynt.
Aeth y parti priodasol i fwynhau eu hunain i gymdogaeth prydferth Porthmadog a Beddgelert.