MARWOLAETH.
Gofidus iawn yw gorfod deall am farw y brawd rhagorol Mr Owen G. Jones, Muriau.Nid ydoedd yn gryf iawn ei iechyd er's blynyddau. Yn ddiweddar cafodd ei daraw yn drwm a'r Pneumonia a'r Pleurisy, a nos Lun bu farw yn dawel a thangnefeddus fel ag y bu fyw.
Ergyd drom iawn yw hon i eglwys Horeb (A ), lle yr oedd yn ddiacon ffyddlon a gwasanaethgar, ac yn ysgrifenydd yr, eglwys er's dros 20ain mlynedd Gweithiwr cyson, distaw, doeth ydoedd, ac yr oedd ei sel i grefydd a'r eglwys yn eithriadol. Cymeriad hardd iawn, a gair da iddo gan bawb a'i hadwaenai. Perchid ef yn fawr fel cymydog, ac amaethwr diwyd a chymwynasgar.
Efe yn dad a phriod anwyl a thyner iawn, a gwag ryfeddol fydd aelwyd y Muriau, a phrudd fydd calon ei briod anwyl a'r plant hebddo. Ond credwn iddo fyw bywyd sydd yn ernes newid i fyd gwell. Prudd er hyn yw colli gŵr mor rhagorol, caredig, a gwasanaethgar yn nghanol ei ddyddiau.
Claddwyd ei weddillion dydd Sadwrn yn mynwent newydd Llanbedrog. Yr oedd yn angladd lluosog a pharchus iawn. Gwasanaethwyd wrth y tŷ gan y Parchn. R. M. Edmunds (gweinidog), Morgan Price, Chwilog, a T. J. Jones (M.C ), Brynmawr. Wrth y bedd siaradwyd yn ddwys ac effeithiol gan y Parch. J. Rhydderch, Pwllheli, a gweddiwyd gan y Parch. Owen Jones, Nant Ffrancon.
Gadawa briod, ac un mab a phedair merch, ynghyd a brodyr a pherthynasau eraill yn eu galar. Merch iddo ef yw priod y Parch. D. M. Mason, Chwilog. Cymerwyd gofal trefniadau yr angladd gan Mr M G. Jones, Artro, Pwllheli.
Nodded y nefoedd fyddo dros y teulu trallodus a'r eglwys yn ei cholled drom.