PRIODAS.
Ddydd Mawrth yng nghapel Penlan, Pwllheli, unwyd mewn glan briodas Mr. Griffith Williams, mab Mr. a Mrs W. Williams, Cae Du. Abersoch, a, Miss Annie Jones, merch Mr a Mrs O. G. Jones, Muriau, Llangian. Gweinyddwyd gan y Parchn R. M. Edmunds, Llanbedrog, a J. Mostyn, Abersoch, yn mhresenoldeb Mr. O. Rowlands, y cofrestrydd.Rhoed y briodferch ymaith gan ei thaid. Y gwas ydoedd Mr. Thomas Jones, brawd y briodferch, a'r forwyn oedd Miss Williams, chwaer y priodfab. Yr oedd hefyd yn bresenol Miss Jones, Muriau, Miss E. Williams, Cae Du. Mr. W. Sorton Jones, Tocia, Aberdaron. a Mr. D. E. Dnvies, Glanafon Hotel. Abersoch.
Ar ôl y seremoni ymadawodd y par ieuanc yn nghanol dymuniadau da eu cyfeillion am Landudno, a manau eraill, i dreulio eu mis mel.
Yr oedd y banerau yn lluosog yn yr ardal a phrawf ydoedd fod y ddeuddyn yn uchel eu parch yn y fro. Yr oedd yr anrhegion yn luosog a drudfawr.