YNADLYS PWLLHELI.
Cynhaliwyd ddydd Mercher, Mr. J. G. Jones yn y gadair. Yr oedd hefyd yn bresennol Mr. Maurice Jones a G. Hughes Roberts.Ymddanghosodd Mr. William George ar ran yr Erlynydd Cyffredinol i erlyn John Thomas Jones, Ty Cerrig, Mynytho, yr hwn a gyhuddid o dderbyn arian trwy dwyll-honiad.
Amddiffynwyd gan Mr. W. Caradoc Davies.
Eglurodd Mr. George fod y diffynydd wedi bod yn derbyn budd allan o waith ar ei gyfrif ei hun a phump o blant o Mawrth 21 hyd Mehefin 6ed, yn gwneyd cyfanswm o 26p. 0s. 8c., tra ar yr un pryd yn derbyn 8s. yr wythnos o glafal o'r Yswariant Cenedlaethol. Dywedodd fod y Ddeddf yn hollol eglur nad oedd gan ddyn hawl i dderbyn budd allan o waith os oedd yr un pryd yn deibyni clafdal. Rhoddid budd allan o waith i ddynion oeddynt yn alluog i weithio ac yn methu a chael gwaith. Yr oedd y meddyg wedi ei archwilio ac wedi ei gyhoeddi'n analluog i weithio oherwydd gwaeledd. Yr un pryd yr oedd y dyn yn derbyn budd allan o waith. Yr oedd yn achos clir o dwyll.
Tystiodd John Ellis ei fod ef yn gofalu am y budd allan o waith ym Mhwllheli. Apeliodd y cyhuddedig am fudd allan o waith (out of work donation) ym mis Mawrth. Cyflwynodd ef coupons o dderbynebau ar ba rai yr arwyddodd y diffynydd ei fod allan o waith ac yn abl i weithio. Yr oedd ganddo pump o blant. Talodd y swm o 26p. 0s. 8c. iddo, sef 4s. 10c. y dydd o Mawrth 17 i Mai 24, a 5s. 4c. y dydd am wyth diwrnod. Hefyd 5s. y dydd am 63 diwrnod i'r plant.
Mewn atebiad i Mr. Davies, dywedodd fod rhybuddion i fyny yn y swyddfa yn cynnwys cyfarwyddyd nad oedd neb i dderbyn budd allan o waith os bydd yr un pryd yn derbyn clafdal. Nid oedd dim yn y datganiad a arwyddwyd gan y cyhuddedig yn cyfeirio at glaf-dal o gwbl. Byddai ef yn egluro ystyr y rheolau yn Gymraeg i'r apelwyr.
Tystiodd Mr. W. T. Davies o'r Gyfnewidfa Lafur yng Nghaernarfon fod rhybuddion i fyny yn y gwahanol swyddfeydd yn egluro'r amodau y gellid derbyn budd allan o waith. Yr oedd y policy allan o waith yn parhau am 72 diwrnod a rhaid fyddai i'r derbynydd apelio i bwyllgor lleol am estyniad y cyfryw os yn parhau allan o waith. Os oedd y dyn yn analluog i weithio ni ddylai ymddangos o flaen y cyfryw bwyllgor.
Mewn atebiad i Mr. Davies dywedodd na wyddai ef beth oedd y cyhuddiad yn erbyn y diffynydd. Yr oedd wedi bod ar ei wyliau. Nis gallai ddangos yr un document lle yr oedd y diffynydd wedi arwyddo ei fod yn analluog i weithio. Cytunai fod yno lawer o anwybodaeth o du'r dynion ynglyn a'r darpariadau, ac yr oedd eraill yn gwybod llawer mwy nag ef yn eu cylch (chwerthin). Yr oedd lluaws mawr o rybuddion i fyny ymhob swyddfa.
G. Hughes Roberts : Ac nid oes gymaint ag un ohonynt yn Gymraeg?
Y Tyst : Nac oes.
Tystiodd Mr. Hugh Roberts, Ysgrifennydd Cymdeithasau Cyfeillgar y Sir, fod y cyhuddedig wedi derbyn claf-dal o 8s, yn yr wythnos o Mawrth 3ydd hyd Mai 18fed. Ysgrifennodd ef ato i alw ei sylw at y ffaith ei fod yn derbyn budd allan o waith a chlaf-dal yr un pryd, ac yn gofyn am ei eglurhad. Ni atebodd y llythyr. Cyflwynodd y tyst dderbynebau am yr arian a dalwyd i'r cyhuddiedig.
Mewn atebiad i Mr. Davies dywedodd fod y derbynebau wedi eu harwyddo gan Mr. O. J. Owen, ysgrifennvdd lleol y gymdeithas. Dadleuodd Mr. Davies nad oedd yn gyfreithlawn rhoddi'r cyfryw i mewn gan nad oedd y sawl a'u harwyddodd yn bresennol. Eglurodd Mr. George fod Mr. O. J. Owen i fod i ddod i'r llys, ond yr oedd yn wael ac yn analluog i ddod.
Dadleuai Mr. Davies nas gellid profi fod y dvn yn euog heb y cyfryw. Mr. George Mae'r dyn wedi arwyddo ei fod wedi derbyn yr arian a dyna yr oll sydd arnom ei eisiau.
Cyhuddwyd y diffynydd yn ffurfiol a dywedodd nad oedd yn euog a'i fod wedi eu derbyn yn ei anwvbodaeth. Trosglwyddwyd ef i sefyll ei brawf yn y Llys Chwarterol. Derbyniwyd ef ei hun yn feichiau am y swm o 50p.