Ynadlys Pwllheli.
Cynhaliwyd yr uchod dydd Mercher. Yr oedd yn bresenol - Mri. J G. Jones, Maurice Jones, Cyrnol Gough, Mri. W. Thomas, J. Hughes Parry, W. W. Griffith.HELYNT CYMDOGION O MYNYTHO.
Gofynai Mary Jones, Tanygreigwen, Mynytho, i'r Llys rwymo Mary Roberts, yr hon sydd yn byw y tŷ nesaf, i gadw heddwch. Dywedai fod ei chymdoges yn aflonyddu arni, ac fod arni ei hofn.Gwadai y ddiffynyddes fod gair o wir yn y cyhuddiad, a thystiai yr Heddwas Owen, fod y cyhuddedig yn wraig heddychol, ac na chlywodd fod yr un cwyn yn ei herbyn o'r blaen.
Taflwyd yr achos allan.