MYNYTHO MARW.
Chwith colli o'r ardal hon yr hen frawd, Robert Davies, Llwynimpia, yr hwn fu farw ac a gladdwyd yn Nolbenmaen ddydd Sadwrn, 22ain. Yr oedd yn cwyno ers talwm, ond byr fu amser ei gystudd caled.Nid yn aml y ceir cymeriadau tebyg iddo ef. Safai wrtho ei hunan, yn wreiddiol, unplyg, a diymhongar. Ni fyddai dim yn cael aros yn guddiedig yn ei feddwl a'i deimladau. Yr oedd ei eiriau yn fynegiad o'i wir feddwl a"i deimlad. Yr oedd rhagrith yn ffieidd-dod ganddo. Weithiau byddai ei eiriau yn llymion, ond gwyddai pawb fod ei galon yn onest, yn iach, ac yn llawn o garedigrwydd. Garw ydoedd fel rhyw loan Fedyddiwr y cylch, yn galw sylw at y gwir a'r sylweddol ac yn tarannu yn erbyn balchter a thwyll.
Yr oedd yn gymydog cymwynasgar iawn. a gwyddai pawb a'i gwasanaethai fod ganddo ddynoliaeth braf. Talai am bob gwasaneth yn helaeth ac anrhydeddus. Nid oedd neb yn amen ei grefydd. Yr oedd yn eithriadol ffyddlawn hyd eithaf ei allu i'r eglwys yn Horeb, lle yr oedd yn aelod defnyddiol. Gofalai yn gyson am y weddi yn ei gartref ac yn yr eglwys, a bu fyw yn wastad a chyson trwy'r blvnyddau. Ni allai segura; gweithiwr diwyd a Christion gonest ydoedd ef.
Angladd anghyhoedd. Gwasanaethwyd wrth y tŷ gan y Parch. R. M. Edmunds (gweinidog), ac wrth y bedd gan y Parchn. Collwvn Morgan, Dolbenmaen, ac R. M. Edmonds.
Gadawodd briod hiraethus ar ei ôl gyda chwaer a pherthynasau eraill.