MARW.

Ysgrifena. "Hen Gyfaill."

"Gyda chwithdod mawr y gwelais nodiad am farwolaeth fy hen gyfaill, Mr. Wm. Davies, gyrwr cerbydau, y lle uchod. Bu'm yn ei gwmni lawer gwaith ac yn cael fy ngyru ganddo yn ei gerbyd pan ar fy nhaith drwy Ben Lleyn. Yr oedd am fynu cael y gwirionedd ymhob stori a chyfaill calon ydoedd i bawb oedd yn ceisio ymgyrraedd at y gwirionedd.

Gŵr gweithgar a gonest yn ei ddydd, a'r gair garwa ymlaen, fel y byddai yn hawdd gwybod y pa le y byddai bob amser; ac i ni dyna gryfder pob dyn gan y gallwch ei gyfarfod pan y mynnoch. Bydd ef yr un fath, a gwyddoch ymha le i'w gael. Un felly oedd fy nghyfaill o Abersoch.

Nid oedd yn ysgolor na llawer o lenor, na bardd, na cherddor, ond yr oedd yn byw yn ei symledd fywyd gwerth ei efelychu. Yr oedd cadw at ei air yn grefydd ganddo a cheisio gwneyd i arall fel ag y carai i arall wneyd iddo ef, a pha beth yw ysbryd crefydd ond hynyna?

Y mae'r ffrydiau yn rhedeg ohonynt megys ffyddlondeb a sel ynghyd a gweithgarwch yn yr hyn sydd wedi ei ymddiried i ni, pa mor leied a symled bynnag fyddo ein bywyd, Chwith iawn gennym ei golli. Bydded nodded y Nef dros ei briod yn ei hunigrwydd a'r oll o'r perthynasau.

Prydferth odiaeth oedd blodeuglwm coffa Mr. Llewelyn Ellis, Pwllheli, iddo :

Tra 'roedd hafddydd dan ei flodau,
A'r gwyrddlesni dan fy nhroed,
Anhawdd meddwl am fan beddrod
Heb greu hiraeth i'm a chwithdod
Am y caredica 'rioed.

Roedd rhyw bertrwydd boneddigaidd
Yn ymdoni 'i ruddiau tlws,
Nes allweddu ei ledneisrwydd
Drwy gyflawni ei ddyledswydd
I agoryd pob rhyw ddrws.

Drws ei galon rodd i'r lesu,
Ca'dd E'n gyfaill ar bob pryd,
Hawdd Ei garu, a'i addoli;
Mewn pob hawddfyd a chaledi
Para 'run wnaeth Ef o hyd.

Yr oedd yn garedig ac yn gymwynasgar ryfeddol bob amser, a phriodol iawn y gellir dweyd am dano
'Gostyngodd Efe fy nerth ar y ffordd, byrhaodd fy nyddiau.' "

Yr Herald Gymraeg 24/09/1918