MARWOLAETH.

Drwg gennym gofnodi marwolaeth Mrs Janet Davies priod y diweddar Mr. William Davies, Gloston House, Abersoch, yr hon a hunodd boreu Mawrth, Ionawr 21ain 1919, yn 63 mlwydd oed, ac a gladdwyd (angladd preifat) y dydd Gwener dilynol ym mynwent Llanbedrog.

Nid oedd ond pum mis er pan y claddwyd ei phriod ac yr oedd hynny yn loes drom iddi.

Yr oedd yn bresennol yn yr angladd :

Mr. D. E. Davies, Glanafon (mab); Mr. Evan Evans, (brawd); Mr. John Evans, Abersoch; Mr. Thomas Davies, Llanbedrog; Mr. W. Llewelyn Ellis, Pwllheli; Mr. W. H. Davies, Llanbedrog; Mr. David Jones, Tynydon; Mr. Edward Morris, Caergybi; Mr Lewis Davies, Bontddu; Parch W. Rheidiol Roberts, Dolgellau; Mr. Hugh Williams, Penant Inn; Griffith Williams, Trefaes, Sarn; Mr. John Thomas, Abererch; Capt, Roberts, Angorfa, South Beach. Pwllheli; Mr. John Jones Bryn-cethin; R. C. Owen Williams, Abersoch; Mr Ellis Owen. Arlanfor, Abersoch; Mr. Richard Williams, Abererch; Henadur Abel Williams, Abersoch; Mr. William Griffith, Bodawen; Mr. William Griffith, Bay View, Abersoch; Mr. Hugh Williams, Bron Llwyfan.

Yr oedd Mrs Davies yn wraig rinweddol a charedig ryfeddol, uchel ei pharch gan bawb a'i hadwaenai. Canwyll ei llygaid ydoedd Idris bach Glanafon, plentyn bychan Mr. D. E Davies, ei mab. "Henffych i'r dydd cawn eto gwrdd yn Salem lan o gylch y bwrdd."

Gwasanaethwyd yn y tŷ ac ar lan y bedd gan y Parch Rheidiog W. Roberts.

Yr Herald Gymraeg 04/02/1919