MARW AMAETHWR ADNABYDDUS.

Ddydd Mercher bu farw yr amaethwr hysbys Mr John Roberts, Rhandir, ac efe yn 76 mlwydd oed.

Yr oedd yr ymadawedig yn ŵr pwyllog a diwylliedig o farn, ac yn un o amethwyr mwyaf cyfrifol yr ardal. Cymwynasgar ydoedd o natur, a bydd chwith i gylch eang ar ei ôl.

Cymerodd yr angladd le ddydd Sadwrn ym mynwent Llaugian. Cydymdeimlir a'r teulu yn eu profedigaeth.

Yr Udgorn 17/07/1918