Ynadlys Pwllheli.
Cynhaliwyd dydd Mercher. Gerbron Mr. C. H. Lloyd Edwards (Cadeirydd), Dr. Gwenogfryn Evans, William Thomas, W. W. Griffith, Dr. S W. Griffith, a Surgeon-General P. M. Ellis.CAMDDEFNYDDIO PETROL.
Cyhuddid Richard Williams, Glan Aber, Abersoch, o ddefnyddio petrol i amcanion anghyfreithlon.Tystiai yr Heddwas Jones i'r diffynydd ddod a Mrs. Lucas, Abersoch, ac eraill, i gystadleuaeth chwareu cardiau (Whist Drive) a gymerai le yn Neuadd Drefol Pwllheli.
Dywedai y diffynydd fod elw yr amgylchiad yn myned er budd Cymdeithas y Groes Goch, a deallai fod ganddo hawl i ddefnyddio y cerbyd modur i'r pwrpas. Dirwywyd ef i 1p.