MARWOLAETH.
Bu farw Ebrill 30ain, Mrs Gwen Hughes, anwyl briod Mr Evan Hughes, Bryn, Llangwnadle, yn 65 mlwydd oed.Claddwyd hi Mai 3ydd ym Mynwent St. Howyn, Aberdaron. Gwasanaethwyd wth y tŷ gan y Parch J. R. Evans, Hebron, ac ar lan y bedd gan y Parch. E. T. Owens, Aberdaron.
Teimla'r teulu yn dra diolchgar i'r ardaloedd am eu caredigrwydd a'u cydymdeimlad â hwy yn eu profedigaeth lem.