EWYLLYS HEN WR O LEYN.
Perthynasau yn Cyfreithio.
Ym Mrawdlys Caernarfon, dydd Iau, gwrandawyd achos ynglyn ag ewyllys. Yr achwynyddes ydoedd Laura Thomas, Moelyberth Farm, Llangwnadl, a'r diffynydd William Jones, a drigai yn yr un gymydogaeth. Hawliai yr achwynyddes mai hyhi ydoedd unig gymunweinyddes ewyllys ddiweddaf Griffith Jones, Shop, Hebron (brawd i'r diffynydd), a fu farw ym mis Chwefror diweddaf.Honid gan yr amddiffyniad nad oedd yr ewyllysiwr yn ei iawn bwyll pan dynwyd yr ewyllys allan. Gwrandawyd yr achos gan y Barnwr Atkin.
Dros yr achwynyddes yr oedd Mr Ellis Jones Griffith, K.C., A.:S., a Mr T. E. Morris (yn cael eu cyfarwyddo gan y Mri E. R. Davies a Davies), tra yr ymddangosai Mr Artemus Jones .(yn cael ei gyfarwyddo gan y Mri Lloyd George a George) dros y diffynydd.
Sylwodd Mr Ellis Jones Griffith, wrth agor yr achos, fod Griffith Jones wedi ymneillduo o fusnes cyn ei farwolaeth, ond ei fod ar yr un pryd yn trigo yn y Shop, Hebron. Yr oedd yn 71 oed pan fu farw, ac yr oedd ei frawd (y diffynydd) yn 80. Ym mis Tachwedd, 1915, cymerwyd Griffith Jones yn wael a gwnaeth ewyllys yn ffafr ei frawd, William Jones. Nid oedd yn ceisio gosod yr ewyllys hono i fyny. Ar y 26ain o Ionawr, 1916, gwnaed ewyllys arall ym mhlaid yr achwynyddes, oedd yn ferch i berthynas agos iddo. Tynwyd yr ewyllys allan yn Saesneg gan Mr David Jones, ysgolfeistr lleol. Eglurwyd yr ewyllys yn llawn i Griffith Jones, yr hwn a'i harwyddodd, megis ag y gwnaeth Mr J. D. Jones a thyst arall. Yr oedd yr ystad yn werth 447p.
Gwnaed tair ewyllys i gyd. Yn y cyntaf rhoddid yr oll i Laura Thomas, yn yr ail yr oll i William Jones, ac yn y drydedd (yr ewyllyg oedd mewn dadl yn awr) rhoddid y cwbl i Laura Thomas.
EGHLURO'R EWYLLYS.
Rhoed tystiolaeth ynglyn a thynu allan yr ewyllys gan Mr David Jones, prifathraw Ysgol y Cyngor, Penrhoshirwaen. Dywedodd iddo dynu allan yr ewyllys yn Saesneg a'i hegluro yn llawn yn Gymraeg i Griffith Jones, yr hwn a sylwodd ei bod yn hollol iawn. Gadawai bobpeth i'r achwynyddes. Ar y pryd siaradai y cymun-weinyddwr yn rhesymol a synhwyrol.Mewn atebiad i Mr Artemus Jones, sylwodd y tyst na welodd ewyllys erioed wedi ei thynu allan yn Gymraeg. Sylwodd iddo egluro yr ewyllys oreu allai i'r cymun-weinyddwr yn Gymraeg.
Rhoed tystiolaeth pellach parthed gwneuthuriad yr ewyllys dan sylw gan Evan Roberts, a arwyddodd yr ewyllys. Eglurodd Mr Jones yr ewyllys i'r cymun-weinyddwr air am air. Arferai gweinyddes weinyddu ar Griffith Jones, ond y noswaith dan sylw aeth adref am na theimlai yn iach. Foreu Gwener ail-alwyd Mr David Jones, yr hwn, mewn atebiad i Mr Artemus Jones, ddywedodd i ddwy ewyllys gael eu darllen ar ddydd yr angladd - yr ewyllys oedd mewn dadl, ac un arall, a dynwyd allan yn Gymraeg.
Dywedodd yr achwynyddes yr ymwelai a'r cymun-weinyddwr yn ddyddiol. Rai blynyddoedd yn ôl darfu i Griffith Jones drosglwyddo iddi bolisi yswiriant am 78p a pheth dodrefn. Gwnaeth ewyllys yn ei ffafr ym mis Medi, 1915, a rhoddodd hi iddi hi (y dyst) i'w chadw. Dywedodd wrthi na chaffai W. Jones ei eiddo ef am nad oedd ganddo blant. Dywedodd ymhellach fod Mr Evans a W. Jones wedi bod yno yn gofyn iddo wneuthur ei ewyllys yn ffafr W. Jones, ac i W. Jones ddweyd wrtho fod yn rhaid iddo wneuthur ei ewyllys yn ei ffafr ef ac nid yn ffafr Laura Thomas. Sylwodd ei bod hi yn nhy Griffith Jones pan dynwyd yr ewyllys allan, ond na wyddai fod hyny i gymeryd lle yn flaenorol i'r noson hono.
Siaradai a gweithredai Griffith Jones yn rhesymol ag eithrio pan ddeffroai yn sydyn o gwsg.
Dywedodd Dr. Thomas, yr hwn oedd wodi bod yn gweinyddu ar Griffith Jones yn ystod ei afiechyd, y byddai yn galw gydag ef yn fynych.
Yn mis Tachwedd gofynodd yr ymadawedig iddo a fuasai yn gwneyd ei ewyllys drosto, ond dywedodd y tyst nad oedd yn arfer gwneyd ewyllysiau a gwell fyddai ganddo pe y gofynai i rywun arall. Yn ddiweddarach parotowyd ewyllys gan Mr Evans, y gweinidog, ac arwyddodd ef (y tyst) hi fel un o'r tystion. Arwyddwyd hi hefyd gan yr ymadawedig, yr hwn oedd yn gwbl alluog i wneyd ewyllys ar y pryd. William Jones oedd i gael yr eiddo o dan yr ewyllys hono.
Gwelodd y tyst yr ymadawedig hefyd ar y 25ain o Ionawr, 1910, ddiwrnod cyn gwneyd yr ail ewyllys, ac wedyn ar yr 28ain, ac yr oedd ar y ddau ddiwrnod hyny hefyd mewn cyflwr i allu gwneyd ewyllys. Gwendid henaint oedd un o achosion ei farwolaeth.
Yna rhoddwyd tystiolaeth gan y diffynydd, William Jones, yr hwn a ddywedodd ei fod yn 80 mlwydd oed. Ymwelai ef a'i frawd yn ddyddiol yn ystod ei afiechyd, mewn gwirionedd byddai yno yn gyson yn edrych ar ei ôl ond yn myned gartref dros y nos. Yr oedd ei frawd wedi addaw mai efe a gai ei holl eiddo, ac yr oedd yr ewyllys a barotowyd gan Mr. Evans, y gweinidog, yn hollol gyson a chyfarwyddyd ei frawd. Mewn atebiad i Mr. Ellis Griffith dywedodd y tyst fod ganddo ddau frawd heblaw Griffith Jones, a bu y rhai hyny farw o flaen Griffith. Gobeithiai ef gael rhywbeth ar ôl y cyntaf ohonynt ond gwnaeth ef ei ewyllys i'r nesaf ato, a gadawodd hwnw drachefn ei eiddo i rhywun arall. Yr oedd hyn yn naturiol yn siomedigaeth iddo ef.
Gyda golwg ar yr ewyllys mewn dadl haenai mai twyll oedd y cyfan, wedi ei drefnu yn Moelyberth. Yr oedd ef yn y Siop, Hebron hyd yn hwyr y noswaith y dywedid y gwnaed yr ewyllys, ond ni welodd ef Mr. David Jones yno o gwbl. Y noswaith hono yr oedd ei frawd yn wael iawn ac yn sicr o fod yn analluog i wneyd ewyllys. Gwyddai fod ei frawd yn cashau Laura Thomas ac adgofiodd am achlysur pan y gorchymynodd ei frawd iddi fyned allan o'r ystafell. Nis gallai, fodd bynag, roddi rheswm y bu i'w frawd roddi polisi yswiriaetlh i Laura Thomas.
Rhoddodd y Parch Jonathan Evans, gweinidog yr Annibynwyr, yn Hebron, hanes gwneuthuriad ewyllys mis Tachwedd. Nid oedd yr ymadawedig yn aelod o'i eglwys, ond daeth cenadwri iddo i ofyn a fuasai yn galw i wneyd yr ewyllysi. Gwnaeth yntau hyny yn Gymraeg yn ôl cyfarwyddyd yr ymadawedig. Siaradai yr ymadawedig yn hollol bwyllog deallai bobpeth oedd yn cael ei wneyd. Ddiwrnod yr angladd dygwyd allan y ddwy ewyllys, yr un a wnaed gan y tyst a'r llall a wnaed gan Mr. David Jones, ac i fyny i'r adeg hono ni wyddai y tyst ddim am yr ewyllys olaf.
Wedi gwrandaw tystion eraill ymgyngorodd y rheithwyr am dri neu bedwar munyd ac yna daethant a rheithfarn o blaid yr hawlydd Laura Thomas.
Yna rhoddwyd dyfarniad o'i phlaid gyda'r costau.