HUNO GWRAIG ANWYL.
Ddydd Mercher, yn sydyn, hunodd Mrs. Cadben Davies, Angorfa, a hi yn 72 o'i hoedran. Nid oedd yn gref ers blynyddau.Yr oedd yn gymeriad hynod o siriol a charedig, yn wraig ymysg gwragedd, ac yn fam ymysg mamau. Edrychid i fyny ati fel hrenhines mewn hynawsedd, cyngor a doethineb. Ac am ben y cwbl, perchid hi fel Cristion didrwst a dihunan. Yn heulwen ei gwen, a mwynder ei gair a'i lletygarwch, cafodd Angorfa enw newydd, sef Bethania. A hoff oedd gan yr Iesu un oedd mor hoff ohono Ef. Ac am groesaw Bethania i'r "Gwr Gofidus", ac er Ei fwyn, wele hithau wedi ei chroesawu ganddo yntau i gartref anfarwoldeb a chan.
Gadawodd ddylanwad ardderchog o'i hoi i'w phlant a'i theulu lluosog, y rhai sydd wedi esgyn i safleoedd anrhydeddus, lawer ohonynt. Caffed hwy a'r frawdoliaeth yn y lle ddeuparth o'i hysbryd. a nerth i gerdded ymlaen i gyfeiriad ei chartref gwell.
Y siriol wraig fu'n siarad-yn ei gwen.
Yn ei gwiw ddylanwad
Marw nid all cymeriad,
Gloew ei hoes yn ein gwlad.
Herald Gymraeg 22/12/1914
CLADDEDIGAETH.
Ddydd Sadwrn, wythnos i'r diweddaf, dygwyd rhan farwol Mrs. Davies, anwyl briod y diweddar Capten Davies, Angorfa, i Gapel Helyg, gan nifer o'i pherthynasau a chyfeillion.Gwasanaethwyd gan y Parch W. Jones, M.A., Fourcrosses.
Chwith yw colli y cedyrn mewn bywyd a phrofiad un o'r rhai arbenig hyny oedd Mrs. Capten Davies. Cymeriad anwyl mewn cymdeithas.
Digwyddodd gwall-argraff yn yr englyn dilynol, yr wythnos ddiweddaf :—
Y siriol wraig fyn siarad-yn ei gwen,
Yn ei gwiw ddylanwad
Marw nid all cymeriad
Gloyw ei hoes yn ein gwlad.