MARW.

Blin gennym yw cofnodi am farwolaeth y chwaer Mrs Anne Jones, Cefn Caerferch, Llangybi, yn 58 mlwydd oed.

Merch ydoedd i'r diweddar Mr John Elias, Ty Cam. Gwraig dawel a dirodres ydoedd, yn meddu ar gymeriad glan a di-lychwin, ac yn hynod o boblogaidd gyda phawb o'i chydnabod. Yr oedd yn aelod ffyddlon o Eglwys M.C. Pencaenewydd, ac yn ddiameu yn haelionus at yr achos. Claddwyd yng Nghapel Helyg ddydd Llun.

Gwasanaethwyd gan y Parch Wm. Jones, M.A.

Cydymdeimlwn a'i hunig fab a'r perthynasau oll yn eu profedigaeth.

Yr Herald Gymraeg 20/05/1919