PENCAENEWYDD PRIODAS.
Ddydd Gwener yn Mhwllheli. unwyd mewn priodas Mr Richard Humphreys, Coed Cae Gwyn a Miss Mary Hughes Jones, Cil yr Adwy.Gweinid arnynt fel gwas gan Mr William Jones (ieu) Gefail Mur Cwymp, ac fel morwyn Miss Humphreys (chwaer y priodfab). yr Efail Newydd.
Yr oedd y banerau aml gyhwfenid y diwrnod hwnw yn arddangosiad cyffredin o deimlad da y fro tuag at y deuddyn.