MARW'N IEUANC.

Y mae yr ardal hon mewn braw a dychryn yr wythnosau hyn o herwydd fod cynifer yn dioddef oddiwrth y diphtheria, sydd wedi profi yn angeuol i amryw o blant a phobl ieuainc.

Yr wythnos hon y mae genym y gorchwyl pruddaidd o gofnodi marwolaeth y brawd ieuanc siriol, John Roberts, mab Mr. a Mrs. R. Roberts, Tyddyn Bach, Llangybi, foreu Sul, ac efe ond 17 mlwydd oed.

Claddwyd ddydd Mercher, Ionawr 7 ym mynwent Capel Helyg, pryd y gweinyddwvd gan y Parch T. Williams. Yr oedd yr ymadawedig yn gymeriad hardd. Nodweddid ei fywyd ieuanc gan rinweddau a grasusau oedd yn ei wneud yn hoffus gan ei gyfoedion. Pruddaidd a galarus ydyw gweled yr ieuanc yn cael ei dori i lawr cyn dechreu sylweddoli yn llawnach nag y gallai byth y cysur ydyw, ei fod erbyn hyn mewn gwlad y caiff gyfleusderau lluosocach a gwell i'w syiweddoli yn llawnach nag y gallai byth wneud yma.

Ymgysured ei rieni, ei frawd, a'i chwaer yn y ffaith hob. Dymuna y teulu mewn modd arbenig gyflwyno yn gyhoeddus eu diolchgarwch trylwyraf i'r foneddiges hynod a chymwynasgar, Mrs. Williams-Ellis, Glasfryn, ac hefyd i Capten R Griffiths, Brvn Afon a Mr. W. Davies, Haulfron, am eu caredigrwydd eithriadol iddynt yn eu profedigaeth chwerw, a'u galar dwfn.

Herald Gymraeg 13/01/1914


COLOFN CARNEDDOG.

Dymunwn ddadgan ein cydymdeimlad cywiraf รข Mr a Mrs R. Roberts, Tyddyn Bach, Llangybi, Eifionydd, yn eu profedigaeth a'u galar o golli eu hoffus fab, John Roberts, mor hynod o sydyn.

Y mae Mrs Roberts yn un o blant ardal Nantmor.

Rhoddir cymeriad uchel i'w mhab, fel llanc dilychwin ei fuchedd a christion cywir.

Herald Gymraeg 20/01/1914