Y Diweddar Barch. J. Clough Williams-Ellis, A.C. ac Y.H., Glasfryn, Llangybi, Eifionydd.

Dydd Sadwrn diweddaf, claddwyd yr hyn oedd farwol o'r gŵr parchedig uchod, ar ôl byr ysgafn gystudd. Tarawyd ef yn glaf nawn Mawrth, ac yr oedd yn ei fedd nawn Sadwrn dilynol.

Cloddiwyd ei fedd mewn congl neillduedig yn ngardd Glasfryn, lle y bwriedir codi capel gan y teulu, ac yno ar y dydd olaf o Fai y rhoddwyd ei weddillion i orphwyso.

Cyfyngwyd y cynhebrwng i'r teulu yn unig, a rhai o'r tenantiaid ar ystad y Glasfryn. Gweinyddwyd ar yr achlysur gan Rheithor y Plwyf a Ficer Caernarfon.

Yr oedd y diweddar Mr Ellis yn 3rd Wrangler, Moderator, a Fellowr o Sidney College, Cambridge. Bu yn Rector Madening, ger Caergrawnt, ac yn ddilynol yn Rheithor Gayton. Yn 1888 ymsefydlodd yn Glasfryn, hen gartref y teulu. Fore Sul diweddaf, cynhaliwyd gwasanaeth coffadwriaethol iddo yn hen Eglwys Llangybi, pryd yr oedd yr adeilad yn orlawn.

Fel anthem, canwyd emyn a gyfansoddwyd gan Mr. Ellis, a'r gerddoriaeth o eiddo Dr. Naylor, Cambridge.

Y Llan 06/06/1913