Llys Ynadol Pwllheli.

Cynhaliwyd ddydd Mercher diweddaf, gerbron yr Henadur Maurice Jones (cadeirydd); yr Henaduriaid G. Hughes Roberts a W. Anthony; Dr. R. Jones- Evans, J. G. Jones, Ysw., C. Lloyd Edwards, Ysw., W. W. Griffith, Ysw., a J. Hughes Parry, Ysw.

Yr Ochr Chwith.

Am gario goleu ar yr ochr chwith i'w gerbyd cafodd Robert Humphreys, Glasfryn Bach, Llangybi, ei ddirwyu i swllt, ac 8s. 6c. o gostau.
 

Udgorn 21/01/1914