MARW.
Foreu Iau bu farw Mrs Jane Roberts, priod y diweddar Mr Robert Ellis Roberts, Caecribin, wedi peth gystudd, yn 78 mlwydd oed. Bu iddi ddeg o blant, o pa rai y mae wyth yn fyw.Yr oedd yn wraig rinweddol a diabsen am bawb, ac yn aelod ffyddlon o Eglwys Llwyndyrus (M.C.).
Ychydig o flynyddoedd yn ôl derbyniodd Feibl hardd gan yr eglwys fel eu gwerthfawrogiad o'i ffyddlondeb i'r achos. Claddwyd ddydd Llun yn mynwent Carnguwch.
Cydymdeimlir yn fawr ar teulu lluosog yn eu profedigaeth.