Llys Apel y Sir.
Cynhaliwyd dydd Mawrth, yn Mhwllheli. Yn bresenol Mr. J. E. Greaves (Cadeirydd), Dr. O. W. Griffith, Mri. G. Hughes Roberts, John Owen, Llew Davies (Clerc), Lieut. Cradoc Davies (Cynrychiolydd Milwrol), Mr. W. E. Williams (Cynrychiolydd Amaethyddol).GWAITH DI-BROFFIT.
Ymddangosai Mr. John Pierce, Eifion Saw Mills, Pencaenewydd, yn ffafr esgusodiad i Richard Parry. Apeliwyd yn erbyn esgusodiad amodol gan y Cynrychiolydd Milwrol fis yn ôl, a gohiriwyd er i Mr. Davies gael mantais i weled y lle.Dywedai Mr. Davies ei fod wedi ymweled a'i lle. Nid oedd amheuaeth nad oedd yna waith mawr yn cael ei gario ymlaen yno. Synodd weled cymaint o amrywiaeth peirianau yno. Yr unig gwestiwn i'w benderfynu ydoedd a oedd galw am ddau waith o'r fath yn yr ardal.
Dywedai Mr. Pierce ei fod wedi cymeryd blynyddau lawer iddo sefydlu y busnes, ac yr oedd yn dibynu ar Parry i'w gario ymlaen, gan ei fod ef yn rhoddi llawer iawn o'i amser i wasanaethu y cyhoedd.
Y Cadeirydd : Gwaith di- broffit iawn ydyw hyny (chwerthin).
Mr Pierce : Yr ydych chwi yn gwybod hyny yn dda, syr.
Hydref 31, yn derfynol.