YNADLYS PWLLHELI.

Cynhaliwyd ddydd Mercher, Mri J. G. Jones (cadeirydd), G. Hughes Roberts, Dr. Gwenogfryn.Evans. J. Hughes Parry, W. W. Griffith, a G. Cornelius Roberts.

DIREIDI GWAS FFARM.

Cyhuddai Richard Jones, Tyddyn Felin, Fourcroeses, Griffith Roberts, gwas yn Ysgubor Fawr, Fourcrosses, o wneyd niwed i'w eiddo.

Dywedodd yr erlynydd ei fod wedi dal y diffynydd yn ei faes. Yr oedd wedi tynu yr aradr oddiwrth ei gilydd. Yr oedd hefyd yn achosi poen a thrafferth iddo yn ystod y ddwy flynedd diweddaf. Unwaith bu iddo ganfod potel yn llawn o bylor yn y maes. Dywedodd fod hyn yn achosi anhwylusdod mawr iddo ef a hyny ar adeg pan yr oedd y Bwrdd Amaethyddol a Mr E. R. Davies yn eu hanog i aredig ychwaneg o dir.

Yn ateb Mr E. R. Davies. yr hwn a ymddangosodd ar ran y diffynydd, dywedodd yr achwynydd nad oedd y gwydd wedi ei ddinystrio o gwbl.

Tystiodd y diffynydd ei fod ef a chyfaill wedi tynu y ceiliog ac olwyn y gwydd oddiwrth eu gilydd o ran direidi tuag at y mab. Ond pan welsant fod Mr Richard Jones wedi cymeryd tramgwydd cynygiasant osod y gwydd wrth ei gilydd, ond rhwystrodd yr erlynydd hwy. Nid oedd ond gwaith dau funyd. Nid oedd ef wedi arfer llw on tuag at yr erlynydd fel y tystiwyd.

Archodd y fainc y diffynydd i dalu 5s o iawn i'r erlynydd a 6s 6c o gostau.

Yr Herald Gymraeg 29/02/1916