CLADDEDIGAETH.
Yn mynwent y plwyf uchod, ar y 3ydd cyfisol, claddwyd gweddillion y ddiweddar Mrs Pierce, priod yr anabyddus Mr. John Pierce, Pencaenewydd, Chwilog, a thorf luosog yn ei hebrwng i dŷ ei hir gartref.Wele y llinellau a ddaeth i law ei phriod y dydd dilynol wedi ei hymadawiad :-
Margaret oedd chwaer garedig,onest,
Ag anwyl wraig ddiddig;
A bu hon o'i bron i'w brig,
Fyw'n addas fam foneddig.
Iseifion.
Dywed ei bywyd rhinwedd am 72ain o flynyddoedd i'r sawl a'i hadwaenai fwy nag a ganiata gofod i'w ddweyd mewn ysgrif, yr hwn a awgryma nad oes angen dyfalu pa beth ydyw ei gwobr heddyw.
Darllenwyd rhanau pwrpasol i'r amgylchiad a gweddiwyd yn effeithiol wrth gychwyn o'r tŷ gan y Parch Robert Jones, Rhosfawr. yn yr eglwys, ac wrth lan y bedd gwasanaethwyd gan y Parchn. Mri. Davies, Llanarmon a Llangybi.
Teimlir colled ar ôl ein diweddar chwaer gan amryw yn yr ardaloedd hyn. Gadawodd ar ôl luaws o deulu i alaru am ei chwmni.
Cydymdeimlir a hwynt yn eu profedigaeth gan yr oll o'u cydnabod.