ACHOS GAN GORFFORAETH PWLLHELI.

Yr achos ddiweddaf a wrandawyd ym Mrawdlys Sir Gaernarfon, dydd Iau, ydoedd eiddo Corfforaeth Pwllheli yn erbyn Ann Jones, tenant fferm Mur Cwymp, Llangybi, Lleyn.

Ymddangosai Mri. T. Artemus Jones, K.C., a T. E. Morris, yn cael eu cyfarwyddo gan Mr. E. R. Davies, Pwllheli, dros yr erlynwyr, a Syr Ellis Jones Griffith, K.C., a Mr. R. Sutton, (yn cael eu cyfarwyddo gan Mr. Davies, Caernarfon) dros y ddiffynyddes.

Ar ôl gwrandaw yr achos am beth amser ymneilltuodd y bargyfreithwyr, y cyfreithwyr, a'r Barnwr er ceisio setlo'r achos. Gwnawd hynny fel y canlyn : Y ddiffynyddes i aros mewn meddiant hyd Dachwedd, 1920, i roddi i fyny hawliau'r dwfr (water rights) i'r Gorffaraeth, ac i dalu rhan o'r costau.

Chwareuai hawliau'r dwfr ran bwysig yn yr achos.

Yr Herald Gymraeg 10/06/1919