MARWOLAETH.

Gofid ini yw cofnodi marwolaeth Miss Maggie Jones, Mur Cwymp, yr hyn a ddigwyddodd ddydd Sul, wedi hir gystudd, yn 44 mlwydd oed.

Yr oedd yn feddianol ar gymeriad glan a phur, ac o natur dyner a hoffus, a chwith iawn fydd gan luaws mawr o'i chyfeillion yn yr ardal ei cholli.

Claddwyd ddydd Mercher yn Llangybi (angladd anghyhoedd).

Cydymdeimlwn a'r perthynasau lluosog yn eu profedigaeth chwerw.

Yr Udgorn 18/12/1918