PENCAENEWYDD HUNO.
Mae ambell un wedi byw mor wirioneddol fel mai nid priodol yw dweyd farn y cyfryw; felly y rhaid dweyd am y ddiweddar Mrs Mary Griffith, priod y diweddar Mr David Griffith, y Weirglodd Goch, a hi oddeutu 60 mlwydd oed.Bu dan groes cystudd yn hir, yr hon a ddygai yn siriol. Ddydd lau dygwyd ei chorff i fedd ei phriod, yng Nhapel Helyg gan nifer o berthynasau a chyfeillion y teulu, yn ôl ei dymuniad hi ei hun. Gweinyddwyd gan y Parch Henry Williams, B.A. Machynlleth gynt, Penygroes.
Yr oedd yn aelod eglwysig ym -Mhencae Newydd o'i mebyd. Meddai ysbryd addfwyn a hynaws; yn ddoeth, diabsen, a thawel ei rhodiad. Yr oedd hefyd o dueddiadau darllengar ac o gof a meddwl cryfach na'r cyffredin. Dilynodd yr Ysgol Sul hyd y gallodd,ac wrth beunydd drysori y Gair ar ei chof ac yn ei meddwl yr oedd wedi mynd yn ddeddf i'w bywyd, ac yn hyfrydwch i'w phrofiad.
Gadawodd waddol ardderchog i'w phiant a'i pherthynasau mewn cymeriad a choffadwriaeth fydd fyth yn fendigedig.
I Weirglodd Goch, ei Harglwydd Gwyn-a ddaeth,
Mynnodd hi i'w ganlyn;
A'i dwylaw ar y delyn,
Iach ydyw hi chwedl hyn.
Yr Herald Gymraeg 10/08/1915
MRS MARY GRIFFITH.
Mrs Mary Griffith, widow of Mr David Griffith, Weirglodd Goch, Pencaenewydd passed away last week in her 61st year, after a long illness.The funeral took place on Friday at Capel Helyg, the Rev. Henry Williams, B.A., late of Penygroes, officiating.