MARWOLAETH.
Dydd Mercher diweddaf, a hi yn ei 74 mlwydd o'i hoedran, bu farw un o hen drigolion yr ardal, sef Mrs. Elizabeth Humphreys, Castell, gynt (priod y diweddar Thomas Humphreys).Cafodd gystudd mawr, ond dioddefodd y cwbl yn dawel a dirwgnach.
Yr oedd yn un o'r rhai cyntaf yn yr ardal i gael y pensiwn, sef Coron Lloyd George,fel y dywedai. Bu yn aelod selog gyda'r Methodistiaid ym Mhencaenewydd, o'r hon eglwys y bu ei hen dad duwiol, William Griffith, yn flaenor am flynyddau.
Dydd Llun hebryngwyd ei gweddillion i orphwys i fynwent Capel Helyg gan dorf luosog a pharchus.
Gwasanaethwyd yn y tŷ ac yn y fynwent gan y Parch. Thomas Williams.
Gadawa amryw ferched a mab a theulu mawr i alaru eu colled ar ei hol.