CYW O FRID.

Dywed hen wireb Gymraeg. "Mae cyw o frid yn well na phrentis." Mae'r ystyr arwyddocaol yn eglur. Esboniad gwirebol arni yw'r wireb "Trech anian na dysg. A phan y dywedir y "genir" dyn yn fardd, yn hytrach na'i fod yn enill y cymeriad drwy ddysg, er nad yw yn annibynol - ar yr olaf, - iddo ef, o bawb y gwedda y wireb hon oreu.

Ond beth yw "bardd" yn ôl y syniad cyffredin?

O, un yn medru gwneyd i ryw fath ar ryddiaith odli a chlecian; un fedr wneyd "barddoniaeth," heb feddwl, a chanu heb ddweyd dim. Gwyneb, ac nid enaid, yn ôl y syniad cyffredan, sy'n cyfansodi y bardd, druan ohono! Mae syniad gwerin am wir hanfod pethau digon ymarferol yn druenus o amherffaith, ac yngwyneb hyn, mae'n anodd peidio gofyn pa beth mae aelwyd, pwlpud, ac ysgol, etc., yn wneyd, yn neall, heb son am fvwvd gwerin gwlad. Cyn mynd ymhellach, afraid yw ymadrodd yn amgylchu 'Cymru, Lloegr. a. Llanrwst," er pwyso enwogian awen a dysg yng nghlorian mympwy, a dweyd yn derfynol ac awdurdol na chododd na bardd na phregthwr mewn un oror hafal i feirdd a phregethwyr "ein hardal ni," fel y dywedir gan rhywrai am ragoriaethau "ein henwad ni." Gan nad beth am hyny ni chredai hanesydd y dyfodol y fath freuddwyd.

Ond daliwn at ein "testyn," gan, ddweyd fod John Henry Jones, bachgen 11eg oed, o Dyddyn Llan, yn gyw o frid pryddol, ac wedi profi hyny eisoes mewn nifer o benillion rhagorol i un o'i oedran. Mae'n wyr i'r diweddad 'Ieuan Eifion'.

A chan eu bod yn "amserol," rhoddwn engraifft o ychydig o'r penillion yma; gan hyderu y bydd hyny'n symbyliad iddo ef a'i gyfoedion i feddwl, ac i roddi i'r meddwl hwnw ffurf dyrchafol. Byddai hyny yn dda pe dim ond er ceisio atal ychydig ar rwysg yr oes ar lwybr pleser a themtasiwn.

Testyn y penillion hyn yw "Suddiad y Lusitania." Ac er mwyn y bardd, yn y dyfodol, dodwn hwy yma: heb newid, na cheisio gwella dim arnynt:

Ar fore teg cychwynodd llong
O'r enw Lusitania,
Am yr ynys fechan hon,
A'i llond ,hi o fywyda;
Ar ol iddi grwydro lot,
A chyrraedd Mor y Werdon,
Dyna iddi "shot."
Gan rhywun digon gwirion!
 
Dyma'r dwr yn dod iddi,
A'r bobol, druain, yn gwaeddi;
Tra'r plant yn llefain am eu rhieni
Pan oeddynt yn y faith drueni,
A'r pymtheg cant yn boddi
Pan oedd y dwr yn dod iddi;
O dyna gywilydd ar ben yr un dyn
Yn boddi cymaint o rai gwell na fo'i hun!

Mae'r cynnyg nesaf i'r 'dyn' poblogaidd hwnw a elwir "Y Kaiser."

Creadur yw'r Kaiser, i'w wylied;
Mae'n suddo llongau diniwed
Un heglog, cegog, cythreulig,
Yn lladd y bobol—heb eisieu cig.

Mae'r milwyr yn ymladd eu gora
Yn erbyn yr hen gena'
Ar faes, y gwaed, yn Ffrainc,
I geisio malu ei orseddfainc.

Ni cha yr hen Gesar William,
Ymhen tipyn, ei ffordd ei hun
Rhaid iddo wisgo crysbas llian,
Heb gleddyf ar ei glun
Ca fynd i ynys y llygod,
I ruddfan, os leicia fo;
Heb fod yn haner llond ei wasgod,
O hiraeth am dan glo!

Ca farw yno hefyd,
Yn lledan ar y llawr:
A chofiwch chwithau hyny,—
Ni threchir Prydain Fawr!

Hyderwn na wel y "Kaiser William" mo'r bardd, ond y caiff weled ei hun yn fuan yn "Ynys y llygod!"

Yr Herald Gymraeg 29/06/1915