MARW.
Yr wythnos o'r blaen wedi byr gystudd, bu farw'r brawd, Mr. David Griffith yn ei breswylfod, Pentyrch Uchaf, Llangybi.Yr oedd yn ffermwr ar gylch eang, ac yn hynod boblogaidd gyda phawb o'i gydnabod, fel cymeriad caredig, pur, a diabsen. Ennillai bawb a ddeuai i gyffyrddiad ag ef i'w hoffi, i edmygu, ac i ymddirieid yn llawn ynddo. Yr oedd i'r cyfarwydd ag ef, yn ŵr o farn a meddwl cryf, ac yn ddiwyd gyda phob gwaith yr ymgymerai mewn llaw ag ef.
Yr oedd yn meddn'n amlwg ar natur dyner, ac ar ysbryd caruaidd, a hynny yn mhob cylch, ac yn enwedig yn ei deulu.
Yr oedd yn un o ddiaconiaid Eglwys M.C. Pencoed, ac yn hynod ffyddlon yn mhob cylch o wasanaeth, ac 'roedd yn amlwg ddigon fod yr achos yn agos iawn at ei galon. Hoffid yn yr holl ardal, fel cymydog caredig, a gwnai ei oreu yn ei gylch mewn gair a gweithred i'w gymdogion, ac yr oedd hyn yn ddweyd cryn lawer. Heb os gwelir colled ar ei ôl mewn byd ac eglwys. Yn ddiameu bydd dylanwad ei fywyd defnyddiol yn aros yn yr eglwys a'r ardal.
Cydymdeimlwn yn y modd dyfnaf a'i briod a'r teulu lluosog yn eu trallod.
Claddwyd yng Nghapel Helyg.