CAPEL HELYG. HIR WASANAETH GWEINIDOG.

Y Sabboth cyntaf yn Rhagfyr diweddaf yr oedd y Parch. Thomas Williams yn cwblhau 35 mlynedd fel bugail Capel Helyg, Sardis, obleyid y Sabbath cyntaf yn Rhagfyr, 1880, y dechreucdd ar ei lafur gweinidogaethol yn y cylch. Sieryd y ffaith ei fod wedi llwyddo i aros mor hir yn yr un cylch yn uchel am Mr. Williams, am ei gymeriad, ei ddoethineb, ac am yr ymroddiad i waith pwysig ei swydd.

Nid dyn o gymeriad amheus neu annoeth yn ei ymwneud a phobl ei ofal, neu dilafur yn parotoi ar gyfer y pulpud, fuasai yn gallu byw cyhyd yn yr un lle. Sieryd yn uchel hefyd am yr eglwysi y mae wedi cael y fraint o'i gwasanaethu am gyfnod mor faith. Prawf fod yn mhlith yr aelodau trwy yr holl flynyddau rai o heddychol ffyddloniaid Israel, y rhai sydd yn gallu parchu a gwerthfawrogi gweinidogaeth ffyddlon i'r gwirionedd er mai yn y cenad fydd yn traddodi y genadwri rhai nas gellir dweyd am danynt eu bod yn dueddol i flino ar yr hen ac mai gwyn yw pob newydd yn eu golwg.

Trwy yr holl flynyddau gellir dweyd fod y gweinidog da hwn wedi bod "yn helaethion yngwaith yr Arglwydd yn wastadol," nid yn unig i'r eglwysi tan ei ofal ond gyda phob symudiad er hyrwyddo llwyddiant yr achos o fewn cylch Cyfarlod Chwarterol Lleyn ac Eifionydd.

Bu ei ymddygiad hefyd bob amser yn addas i Efengyl Crist. Nis gellir dweyd beth yw gwerth dyn da bydded swyddog neu beidio. Yn nghyfarfod gweinidogion Annibynwyr Pwllheli a'r cylch cymerwyd cyfle gan y brodyr i longyfarch Mr. Williams ar yr achlysur dedwydd hwn yn ei hanes, ac i fawr ddymuno ei lwydd a'i gysur am flynyddeu lawer eto yn ngwinllan ei Arglwydd, a bod yr amddiffyn Dwyfol drosto ef a'i deulu yn amlwg iawn ar hyd eu hoes.

Y mae Capel Helyg yn un o'r eglwysi Ymneillduol hynaf yn Ngogledd Cymru, eto deil yn eglwys fyw ac yn fawr ei dylanwad er daioni. Ein gweddi yw ar ei bod hi a'i chwaer eglwys yn Sardis yn cynal Gair y Bywyd am flynyddau lawer iawn eto yn mro enwog Eifionydd.
 
CYMYDOG.

Yr Udgorn 19/01/1916