Llys Ynadol Pwllheli. Dydd Mercher, Chwefror 12fed.

Gerbron J. G. Jones, Ysw yn y gadair; yr Henaduriaid W. Anthony, Maurice Jones, a G. Hughes Roberts; Dr. O. W. Griffith, W. Thomas, Ysw., a J. R. Jones, Ysw.

Ynghylch Ceffyl.

Cyhuddwyd Richard Pritchard, Parc, Llanfrothen, a Thomas Williams, ei was, o fod wedi bod yn greulon at geffyl trwy ddiofalwch.

Dywedwyd gan Mr S. R. Dew, yr hwn a erlynai ar ran y Gymdeithas er Atal Creulondeb at Anifeiliaid, y rhoed y ceffyl i Pritchard yn gyfnewid am fuwch gan Thomas, Williams, Tyddyn Cethin, Llangybi. Deuwyd a'r ceffyl yn ôl ymhen tridiau, ond gwrthodal Williams, ei gymeryd. Ymhen ychydig ar ôl i'r ceffyl gael ei wrthod yn Tyddyn Cethin syrthiodd i ffos, a chydag anhawsder mawr y caed ef o honi. Pan gaed ef allan gadawyd ef wrth ochr y ffos heb fwyd na diod nes y bu farw y noson ddilynol.

Tystiwyd gan Thomas Williams iddo fargeinio gyda Pritchard i gyfnewid caseg am fuwch, a gwnaed y ffair yn Nhremadog ddydd Llun. Y dydd Mercher dilynol cyfarfu Pritchard yn Mhwllheli yn unol a'i gais, pan y dywedodd y diffynydd wrtho nad oedd yn foddhaol ar y gaseg. Dywedodd yntau nad oedd ef wedi gweld dim allan o le arni. Nid oedd wedi addo cymeryd y gaseg yn ôl pan wnaed y ffair os na byddai yn foddhaol. Gwrthododd gymeryd y gaseg yn ôl ac arweiniodd y gwas a hithau tros derfynau y fferm. Clywodd wedi hyny fod y gaseg wedi syrthio i ffos.

Tystiwyd gan Morris Griffith iddo gynorthwyo i gael y gaseg o'r ffos. Yr oedd mor wan pan godwyd hi i fyny fel nas gallai sefyll ar ei thraed. Ar ôl ei chodi i fyny aeth Williams yn ôl am Lanfrothen. Tybiai ef y dylesid fod wedi lladd y gaseg y pryd hwnw ar unwaith. Tystiwyd gan swyddog y Gymdeithas iddo weled corpws y gaseg a'r lle y bu'n gorwedd. Yr oedd yn amlwg y gwnaeth ymdrech galed i godi ar ei thraed. Aeth y diwrnod dilynol i'r Parc, Llanfrothen, a gwelodd y ddau diffynydd. Dywedodd Williams iddo gychwyn am Langybi naw o'r gloch y boreu a chyrhaeddodd yno tua chwech yr hwyr. Pan gyrhaeddodd Tyddyn Cethin bygythiodd Thomas Williams ei ladd os nad elai ar gaseg oddiyno ar unwaith. Yn fuan wedi hyny syrthiodd y gaseg i ffos, ac nis gallwyd ei chodi hyd nes oedd yn mhell wedi un- ar-ddeg o'r gloch. Nid oedd wedi rhoi bwyd i'r gaseg o gwbl o pan gychwynodd.

Dywedodd Mr Jones Morris, tros yr amddiffyniad, nad oedd y diffynydd ond wedi dod a'r gaseg yn ôl yn unol a'r cytundeb a wnaeth ef a Thomas Williams. Nid oedd y gaseg yn foddhaol, a dygwyd hi yn ôl, ac yr oedd yr holl helynt wedi digwydd yn herwydd i Williams wrthod ei chymeryd yn ôl.

Tystiwyd gan John S. Williams iddo glywed yr ymddiddan rhwng Pritchard a Thomas Williams, ac fod Williams wedi cytuno i gymryd y gaseg yn ôl os na byddai yn foddhaol.

Wedi rhoi ystyriaeth lled faith i'r achos penderfynodd y Fainc daflu allan yr achos yn erbyn y ddau ddiffynydd.

Yr Udgorn 19/02/1913

Pwllheli County Court.

SHEEP TRESPASS CASE.

Pwllheli County Court was held on Friday, before his Honour Judge Ivor Bowen, K.C. Thomas Williams, Tyddyn Cethin, Llangybi, claimed £11 18s. from John Roberts, Ynys Wen, for damages done by sheep.

Defendant counter- claimed £10.

Mr. John Humphreys appeared for plaintiff and Mr. William George for defendant.

Mr. William George : I do not know whether my friend is ready to receive a sporting offer to put the claim against the counter- claim and shake hands.

Mr. Humphreys : I cannot do that unless my friend will pay £5 towards the costs.

Mr. George : Oh, no.

Mr. Humphreys, in opening the case for plaintiff, said the parties were in the habit of letting their land for sheep in the winter. Before the sheep came plaintiff asked defendant to fence the boundary wall between the two farms. Defendant refused. Plaintiff then fenced one half of the boundary wall and defendant's sheep came over the other half into his fields.

In February defendant fenced his part, but the sheep came over again from another farm. At one time forty-one sheep were found eating his turnips. Plaintiff penned them in and defendant refused to come for them and the sheep were released. Mr. William George said plaintiff had 120 grazing sheep on his farm defendant had fifty only. Plaintiff's sheep trespassed to a greater extent on defendant's land than defendant's sheep on plaintiff's land.

Judgment for plaintiff for £5 5s on the claim and disallowed defendant's counterclaim.

Cambrian News 26/07/1918