LLANGYBI HUNO MAM YN ISRAEL.
Yr wythnos cyn y ddiwedidaf, a hi wedi cyrhaedd yr oedran mawr o 91 o flynyddoedd bywyd, prudd. felus yw mynegi huno mam yn Israel, Mrs. Mary Parry, Ty Croes, ar lafar, yn ôl dull dilol yr hen wladwyr—"Mari Pari!" Ac yng Nghapel Helyg, dydd Mawrth, y 18fed, gan nifer o berthynasau a chyfeillion, y talwyd yr olaf gymwynas iddi, tra'r Parch David Roberts, Abererch, yn gweinyddu.Hi oedd ferch Ty'n Llan, Llnnarmon, teulu hysbys am eu caredigrwydd. Adgofia Beti Roberts, ei mham, enw arall, sef Mair Bethania. Gellir dweyd am deulu Ty'n Llan, megis am y teulu hwnw,—"A hoff oedd gan yr Iesu" hwynt. Yn gymharus, ymbriododd Mary Roberts y pryd hwnw â Robert Parry, o'r Ty Croes, dyn effro i'r ddau fyd. Am flynyddau maith bu'n ddiacon gweithgar ym Mhencoed; a'i "goffadwriaetfh sydd fendigedig."
Gawsant yr anrhydedd gan Ragluniaeth o ddwyn i fyny deulu lluosog. Mae Mrs. Owen Jones, y ferch hynaf, Mri Owen Parry, a Watkin Parry yn yr Amerig, ers llawer blwyddyn, mewn safieoedd llwyddianus. Ac yn yr hen gartref, mae Mr Robert Parry a'i chwiorydd, Misses Elizabeth Parry, a Jane Parry. Ac heddyw, mae'r Ty Croes yn sicr o fod yn dy "croes", wrth yr hyn y bu; a'r Amerig, wedi cyfnewid i rywrai dan gysgod tywyll y groes hono. Blin oedd, gorfod meddwl am ddydd angladd eu mham iddynt, a môr rhyngddynt a'i beddle mam yn Israel, ydoedd hi. Breintiwyd hi a chorff cadarn, ac a natur braf ac yn rhinwedd etifeddeg neu etifeddiaeth deuluaidd, yr oedd yn naturiol Gristionogol a boneddigaidd ei hysbryd a'i bywyd.
Gwelsom lawer mwy "crefyddol," mor bell ag y mae ffurf ac act yn myned, ond dywedai ei bywyd hi ei bod yn grefyddol egwyddorol, neu yn wir Gristion. Gwelodd aml a blin gystuddiau." Gwelodd arch ei phriod glan yn cael ei chloi yn naear bedd. Gwelodd yr un peth yn hanes ei phlant.
Clybu farw ei mhab hoff William, ym mro bell y Gorllewin a gloes fwy oedd am nad allai'r fam 'wylo deigryn yn angladd ei mhab. Ond bu'r naill orchwyliaeth, ddwys ar ôl y llall, yn ei hanes, yn foddion i beri iddi sylweddoli bywyd a Duw fel tad yn fwy a gwell; ac yr oedd effaith hyny yn ei hymarweddiaid llednais, caredig, ac union, yn dwyn y sant yn amlycach i'r golwg, bob dydd; nes y daeth yn ddigon santaidd i fyw am byth ym myd priod y sant ei hun. Ac iaith ei bywyd yw,—"Na wylodd fel rhai heb obaith." Dyna ddywed wrth yr eglwys ym Mhencoed, o'r hon yr oedd yn aelod byw. Dyna, ddywed hefyd wrth y fro; ac yn arbenig wrth y cartref.
Mary, huna, hen fam anwyl,—garedig
Ei rhodiad, hyd arwyl;
Ond Iesu, wedi noswyl
Eilw "Nain" i'w lawen wŷl.
A fydd i'r "Drych" Americanaidd wneyd sylw o'r uchod?